Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

.Y RHYFEL YN AMERICA.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y RHYFEL YN AMERICA. Mae y newyddion yn para yn ddystaw o barthed i unrhyw symudiad ar y Potomac, er fod cychwyniad buan yn debyg o gym- meryd lie, gan fod y Cadfridog M'Clellan wedi anfon allan orchymyn i'r gwahanol adranau o'r fyddin i ddal eu hunain mewn parodrwydd ar gyfer hyny, ac y mae 900 o feni yn awr yn barod yn Washington i ddwyn yr holl arlwyon. Nid oedd yr an- turiaeth yn Mississippi wedi hwylio, oblegid fod y ia wedi rhwystro trosglwyddiad y milwyr o St. Louis i Cairo. Fodd bynag, yr oedd llu mawr o filwyr wedi estyn mor bell a May field Creek, oddeutu banner y ffordd rhwng Cairo a Cholumbus. Yr oedd Columbus yn nwylaw y Gwrthryfelwyr, a dywedid eu bod yn rhifo yno o 30,000 i 40,000 owyr. Mynegir o'r Debeubarth fod anturiaeth y 'Cadfridog Burnside wedi cyrhaedd Pamlico Sound, a'u bod ar ymosod ar Newbern ac Ynys Roanoake. Dywedir fod y Gwrth- ryfelwyr yn barod i dderbyn yr ymosodiad. Yr oedd y Senedd wedi mabwysiadu pen- derfyniadau unol y Ty yn gosod trethi a godent 150,000,000 o ddoleri. Pleidleis- iwyd swm ddirfawr hefyd gan Ty y Cyn- nrychiolwyr er adeiladu amddiffynfeydd ar yr arfordiroedd. Mae newyddiaduron Efrog Newydd yn y 0 cyhoeddi bryseb o Cincinnati, dyddiedig yr 20fed o lonawr, yr hon a red fel y canty n :— Dygwyddodd brwydr yn Somerset, Kentucky, ar ddydd Sadwrn, rhwng lluoedd y Cadfridog Schoepf a'r Cadfridog Zollicoffer. Parhaodd y frwydr o'r boreu hyd yr hwyr. Lladdwyd y Cadfridog Zollicoffer, a Hwvr drechwyd ei fyddin, yr hon a ffodd yn mhob cyfeiriad. Y mae ein buddugol- iaeth wedi bod yn drylwyr, a'r canlyniad o honi fydd ysgubiad ymaith yr holl luoedd y 0 sydd yn amddiffyn ochr dde Bowling Green. Q-wnawd ymosodiad beddyw ar fFosgloddiau L y Cadfridog Zollicoffer yn Mill Spring, Sir Wayne, Kentucky, yr hwn a fu yn hoUol lwyddiannus. Y mae Human yr Undeb yn awryn chwifio uwchben yr amadiffynfeydd. Cymmerasom yr oil o'u meddiannau gwersyllol, a nifer fawr o garcharorion. Y mae corff y Cadfridog Zollicoffer yn nwylaw yr Undebwyr." Gohebydd o Lexington a rydd yr hanes a ganlyn o'r frwydr :— Y Cadfridog Zollicoffer, wedi deall fod lluoedd yr Undeb wedi ymddangos y tu cefn iddo, a gyrchodd allau o'r ffosgloddiau am dri o'r gloch boreu dydd Sadwrn, ac a ymosododd ary Cadfridog Schoepf yn ei wer- syll. Gyrwyd y maeswylwyr i mewn yn gynnar yn y boreu, a gwnawd yr ymosodiad cyn dydd. Bu ymladd caled hyd dri o'r gloch y prydnawn* pryd y lladdwyd y Cad- fridog Zollicoffer, ac y gyrwyd y Gwrthry- felwyr mewn dyryswch gwyllt i'w gwersyll. Ni roddwyd rhif y lladdedigion a'r clwyfed- igion, ond dywedir eu bod yn Iluosog. Pellebriad o Louisville, dyddiedig yr 20fed o lonawr, a ddywed Yr oedd y Gwrthryfelwyr ar enciliad buan i'w fFosgloddiau yn Mill Spring, a'r Undebwyr yn eu herlid. Dilynodd y Cad- fridog Thomas y gwrthryfelwyr ar y Sul i'w ffosgloddian. un filltir ar bumtheg o'i wer- syll ei hunan, ond cafodd eu bod oil wedi ffoi, gan adael eu magnelau, eu harlwyon, eu ceffylau, a'u meni ar ol, y rhai a gwympodd i'n dwylaw ni. Y gwrthryfelwyr wrth was- garu, a groesasant y Cumberland, gyferbyn a'u gwersyll yn Mill Spring. Lladdwyd ac archollwyd 275 o'r Gwrthryfelwyr, yn mysg y rhai oedd y Cadfridogion Zollicoffer a Balie Peyton, y rhai a gafwyd ar y maes. Collodd 10fed Gatrawd Indiana 75, lladd. edigion a chlwyfedigion. Nid oes dim pellach am golledion yr Undebwyr wedi cyrhaedd yma." Bryseb o Washington, yr hon hefyd a gyhoeddir yn newyddiaduron EfrogNewydd, a ddywed "Mae y llywodraeth wedi derbyn bryseb heddyw yn cadarnhau y newyddion amy fuddugoliaeth ogoneddus ynKentucky. Mae y fuddugoliaeth hon yn Kentucky yn agor y rhyfelgyrch ardderchog sydd i gael ei ganlyn gan symudiad didor hyd nes byddo y gwrthryfel yn cael ei lethu yn llwyr. Mae y fuddugoliaeth hon wedi ys- gubo y Gwrthryfelwyr allan o Kentucky Ddwyreiniol, gan agor y fford J i fyddin fawr yCadfridog Buell i ymosod ar Tennessee Ddwyreiniol, lie y bydd iddo effeithio uniad rhwng ei luoedd a'r rhai sydd eisoes ar yr arfordir." Dywedir ddarfod i'r Pwyllgor Ymchwil- iol yn Washington wyso o'u blaen un o Gad- fridogion pwyllegol y Prif-ly wydd M'Clellan. Yr oeddynt am gael gwybod rhai o ddir- gelion y Prif-lywydd, ac fel hyn yr oeddynt yn ymdrechu eu cael allan. Gofynwyd i'r Cadfridog a wahoddwyd ef erioed gan M'Clellan i'r rhyfel-gynghor. Atebai, Do. Pwyllgorwr: A ydych chwi yn meddwl fod gan M'Clellan rhyw gynllun o weith- rediad ? Cadfridog: Mi wn fod ganddo gynllun. Pwyllgorwr: A ydyw efe wedi dangos y cyfryw i'r rhyfel-gynghor ag oeddych chwi' ynddo ? Cadfridog Ydyw. Pwyllgorwr: A fyddwch chwi gystal a mynegu i'r Pwyllgor hwn, beth ydyw cyn- llun y Cadfridog M'Clellau 1 Cadfridog: Na wnaf, Svr, hyd nes y gorchymynir fi i wneyd hyny gan y Cad- fridog M'Clellan ei hun. Rhoddodd yr ateb buac a byr hwn ar ddeall i'r Pwyllgor eu bod yn ymyru â phethau nad oedd yn perthyn iddynt. Felly gollyngwyd y Cadfridog, yr hwn a ddych- welodd aty Prif-lywydd M'Clellan. Y farn gyffredin yn y De gyda golwg ar — y cotwm yw, y bydd y cynnyrch o 3,400,000 i 3,600,000 o sypynau. Yr oedd y rhag- olygon yn rhagorol yn nechreu yflwyddyn ond o herwydd gwlawogydd trymion, ac achosion ereill, ni bydd y cynnyrch gystal ag y dysgwylid. Dywedir nad oes un porthladd wedi ei warchau yn briodol; a mynegir am un llestr wedi dianc o borth- ladd" gwarchauedig" Ile yr oedd saith o longau y Cynghreiriaid yn aros. Os nad agorir y gwarchau cyn diwedd lonawr, neu yn nechreu Chwefror, ni phlenir ond ych- ydig gotwm yn y De, gan fod llawer o hono ar law. Heblaw hyny, gorfodir y Cyn- ghreiriaid i gynnyrchu ymborth iddynteu huaam a rhaid i'r tir a ddetnyddid i gyn. nyrchu cotwm gael ei ddefnyddio ynawri dyfu yd, fel ag i wneyd y De mor anuibynot ar gyflenwadau estronol ag y byddai modd.

FFRAINC. "

.ITALI.