Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

--Y GYMANFA DDE - OKLLE WINOL.

CWM RHONDDA.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CWM RHONDDA. Yr A.S. unwaith eto.-Nid yw yn newydd i lawer o ddarllenwyr y TYST A'R DYDD fod Mr Lewis Davis, Ferndale, wedi gwrthod sefyll yn ymgeisydd oherwydd pwysau dirfawr y gofalon masnachol sydd wedi d'od arno trwy farwolaeth ei frawd, Mr Davis, Blaengwawr. Fe roddodd hyn y Tri Chant yn y sefyllfa anghysurus o chwilio am un arall. Fe enwyd wyth neu naw; tynasant yn ol oil ond tri, sef Dr Scholfield, Caerdydd, Mabon, a Mr Fred Lewis Davis, mab Mr Lewis Davis, Ferndale. Nos Wener, y 12fed cyfisol, yn Ton, fe gyfarfu y Tri Chant i bleidleisio trwy y tugel ary tri uchod. Ar ol ethol Mr Richards, Tonypandy, yn gadeirydd, a myned trwy ychydig o waith rhagarweiniol, fe aethpwyd at y gwaith pwysig o ethol. Fe aeth Dr Scholfield allan ar y bleidlais gyntaf gyda 9 o votes; ac ar y bleidlais olaf fel hyn y safai y r hie Fred L. Davis 125 Wrn. Abraham 56 Yna ar gynygiad Dr James, Pentre, ac eiliad Mr W. Morgan, Tynewydd, penderfynwyd yn frwd- frydig roddi gwahoddiad i Mr Fred L. Davis i fod yn ymgeisydd Seneddol, a phan roddwyd ef i'r cyfarfod nid oedd ond 14 yn ei erbyn. Nid yw y diwedd eto, ac mae rhai yn darogan mai dechreu gofidiau yw hyn oil. Mae un peth pwysig i ddyweyd ar hyn, a dyma fe-pe buasai yr ysbryd aflan yn cael ei yru o'r llances hon (y Rhondda) trwy ryw wyrth neu gilydd, mae yma ryw bobl yn gweled y byddai gobaith eu helw yn myned i golli. Pob peth a ddyry dyn, ac a wna am ei einioes, ei swydd, a'i No. 1. Eglwys Seisonig y Porth.—Sefydlwyd yr achos Seisonig yn y lie hwn oddeutu dwy flynedd yn ol, a,c y mae wedi cynyddu yn fawr oddiar hyny. Y mae yr ysgoldy bellach wedi myned yn llawer rhy fach i'r gynulleidfa, ac y mae capel newydd braf ar waith. Dydd Iau diweddaf gosodwyd y meini coffadwriaethol yn y mur. Dygwyd y ser- emoni hon yn mlaen yn ddeheuig gan Mrs H. Griffiths, Porth House, a Miss Spickett, Maesy- coed, Pontypridd. Cynaliwyd cyfarfodydd cy- hceddus yn y prydnawn a'r hwyr yn nglyn a'r amgylchiad yn nghapel yr Annibynwyr Cymreig. Llywyddwyd yn nghyfarfod y prydnawn gan Mr Idris Williams, Brynglas, a thraddodwyd anerch- iadau gan Mri Alderman Lewis, Y.H., Caerdydd; J. Griffiths, Porth House a'r Parch D. L. Evans, Pontypridd. Llywyddwyd yn nghyfarfod yr hwyr gan Mr A. Fulton, maer Caerdydd, a chafwyd an- erchiadau gan Alderman Lewis, Caerdydd; Mr Elias James, Ton-Ystrad; a'r Parchn T. Evans, Star-street, Caerdydd; T. Jones, Llwynpia a D. L. Evans, Pontypridd. Llafuria y Parch D. Parry Davies yn llwyddianus iawn yn y maes gobeithiol hwn. Pob llwydd eto yn y dyfodol. GOHEBYDD.

.. OAK HILL, OHIO, AMERICA.

. COLEG Y GOGLEDD A MEDDYGON…

UNDEB YR ANNIBYNWYR I CYMREIG.