Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
3 erthygl ar y dudalen hon
University College of th Wales…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
University College of th Wales & Monmouthshire, CARDIFF. SCHOOL OF MEDICINE. Ci ai'e open to both Men and Women theiv Tv?ia? s,pend tliree out of tIie five p Medical Curriculum at this College. Nh^tionJ*1?05 ar.e given in preparation for the Certifi-°r ■D^Pllomas in Public Health, and ft '~a*e *he Central Midwives Board. 6 SchJlV regarding Fees, and a Prospectus may be obtained by application to bel\n. of the Faculty of Medicine.
Ymweliadau Mr. Evan Roberts,
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Ymweliadau Mr. Evan Roberts, Yn Nanlymoel. GAN Y PARCH. II. WILLIAMS, AMLWCH. Wedi darllen a theimlo yr hyn sydd yn cymeryd lie trwy Gymru, penderfynais fyned i'r Deheudir i weled y pethau rhyfedd sydd yn cymeryd lie yno, ac yn arbenig i weled Mr. Evan Roberts, y Diwygiwr, oblegid yr oedd, ac y mae, iddo rhyw swyn rhyfedd i mi. Yr oedd arnaf eisieu ei weled a'i glywed yn bersonol. Ac i edrych hefyd a oedd y dylanwad yn y De yn gryfach na'r hyn oeddym ni wedi ei weled a'i deimlo yn y Gogledd. Gwelais a theimlais bethau nerthol mewn cyfarfodydd gweddiau yn Llorft y I'. Felin ,Llaethdy Bach, Amlwch. Do, bu'm yn llygad- dyst o fechgyn yn myned trwodd o farwolaelh i fvwyd, ac nid byth yr anghofiaf yr olygfa. Do, gwel- ais nerthoedd y tragywyddol Ysbryd yn ysgytio dyn- ion, gan eu dal yn ngodrau Sinai megis, i weled mellt, a chlywed taranau argyhoeddiad. Ond nid bodd- lawn oeddwn ar hyn. Rhaid oedd myned i'r De, er gweled pa fodd yr oedd yr Ysbryd yn gweithio yno. Tuag un ar ddeg nos Sabbath wythnos i'r diweddaf, yn nhy Mr. Lloyd, Bethel, penderfynais fyned i'r South. Addawodd y Parch. W. Llewelyn Lloyd ddyfod gyda mi. Boreu Llun a ddaeth, ac wele ni ein dau yn cyfeirio ein gwynebau megis tua Jerusa- lem, er clywed a gweled Apostol Diwygiad y De. Aeth y daith tuag yno heibio yn ddifyr a dyddorol yn nghwmni Mr. Lloyd. Adroddai ddarnau o bre- gethau hwn ac arall, a dyfynai hefyd liaws o sylwad- au Mr. Evan Roberts, gan iddo ei wrandaw dair wythnos neu fis yn flaenorol yn Llansamlet, pryd y gwelodd ac y teimlodd bethau nad anghofia yn fuan. Yr unig beth a barai betrusdod i ni oedd cael gwybod pa le yr oedd y Diwygiwr i fod nos Lun. Wedi cyr- aedd Pontypool, cawsom gopi o'r 'Western :Mail.' Yr hyn a ddisgynodd ein llygaid arno oedd fod Mr. Roberts yn wael, yn dioddef oddiwrth nervous pros- tration. Hawddach yw dychmygu na desgrifio ein teimladau wedi darllen y newydd hwn. Ond ymlaen yr awd i Gaerdydd, gan gredu yr hen ddihareb Gym- reig Yr awr dywyllaf yw'r agosaf i'r dydd." Wedi cael ychydig luniaeth, cyfeiriasom ein camrau i chwilio am y Parch. David Williams, B.A., un o fechgyn Mon, yr hwn sydd, yr wyf yn deall, yn un ? bregethwyr goreu Caerdydd, ac yn atdynu canoedd i wrandaw arno bob Sabbath. Pan yn myned tua'i lety, cyfarfyddasom y Parch. John Morgan Jones. Dywedasom ein neges a'n helynt wrtho. Yr oedd efe yn myned i le o'r enw Pentyrch, lie yr oedd y Diwygiwr i fod y noson hono, er cael rhyw wybod- aeth" "a oedd efe yn dyfod i Gaerdydd ddydd Mer- cher, yn ol y trefniant. Addawodd roddi i ni bob gwybodaeth a allasai ei gael. Wedi treulio nos Lun gyda Mr. Williams, deallasom boreu Mawrth y byddai y Parchn. John Williams,. Hyfrydle, a John Evans, London Road, yn cyraedd Caerdydd gyda'r tren un ar ddeg. Siriolodd hyn ni nid bychan. Aethom i'w cyfarfod i'r Stesion, er mynegi iddynt y newydd nad oedd y Diwygiwr yn bwriadu dyfod i'r ddinas. Dywedir fod canoedd fel ninau wedi dyfod yno gyda'r un neges. Yn awr, y cwestiwn nesaf oedd, Beth oedd i'w wneyd pa un ai dychwelyd yn ol i'r Gogledd, ynte aros er cael rhyw oleuni pellach ar hanes Mr. Roberts, a'i symudiadau. Penderfyn- asom ein pedwar fyned nos Fawrth i Lwynpia, lie yr oedd Mr. Dan Roberts, brawd Mr. Evan Roberts, yn cynal cyfarfodydd diwygiadol. Cyrhaeddasom yno tua pump o'r gloch a chawsom ymgom felus gan un o flaenoriaid y Methodistiaid y lie, yr hwn oedd yn llawn o Ysbryd y Diwygiad ac o'r gweithred- oedd nerthol a gyflawnid yno, ac yn y pentrefi cylch- ynol. Dywedodd wrthym bethau anhygoel braidd— yr oedd un eglwys yno a rifai 120 cyn y Diwygiad, ond yr oedd yn bresenol yn yr ysgol y Sabbath blaen- orol 950. Y fath gynydd! Sobrid y meddwon. Achubid y cymeriadau gwaethaf. Aethum i gyfarfod Mr. Dan Roberts. Yr cedd y capel yn llawn. Teim- lem ar unwaith fod y peth hwp yno. Y canu a'r gweddio yn llawn o ryw asbri, ac eneiniad dwyfol ar bob peth yno. Ychydig ddywedid gan Dan Roberts, a'r genethod oedd gydag ef, y noswaith hono. Yr oedd yr Amenau a'r Diolchiadau i'w clywed trwy yr holl adeilad, a'r teimladau yn rhedeg yn uchel. Ond gan fod yn rhaid i ni ddychwelyd i Gaerdydd y nos- waith hono, ni chawsom aros hyd ddiwedd y cyfar- fod, er gwybod faint oedd nifer y dychweledigion. Felly canasom yn iach i Llwynpia, a dychwelasom ein pedwar i Gaerdydd i orphwys dan nenbren ein cyfaill Mr. David Williams. Ond yn awr, beth oedd- ym i wneyd. Yr oedd perffaith sicrwydd na ddeuai y Diwygiwr i Gaerdydd yn ol y trefniant. Rhai o honolll am ddychwelyd, eraill am aros. Pa fodd bynag, aethom i'n gorvveddleoedd gan ddisgwyl a chredu y deuai goleuni ar bethau boreu dranoeth, ac yn hyn ni'n siomwyd, oblegid gwelsom yn y 'Western Mail' fod Mr. Evan Roberts i fod yn Nantymoel y diwrnod hwnw, a'r dydd canlynol; a mawr oedd ein llawenydd, fel y gellid disgwyl. Myned i Nantymoel.—Wele y pedwar pregethwr o Fon yn eistedd yn ngherbydres y Great Western Railway, ac yn cael eu cario gyda ehyfiymder trwy Forganwg tua Bridge End, a Dyffryn Ogmore. A rhaid dweyd mai Llewelyn Lloyd, o Bethel, oedd yr arweinydd arnom, gan ei fod mor gynefin a'r rhanau liyny o'r wlad. Wedi teithio peth amser, wele ni o'r diwedd yn myned i ddyffryn cul Ogmore. Tai a phentrefi lliosog i'w gweled o bob tu, a dynion mor ami a'r morgrug; a chan ddued a'r gloyn. Ond gydag eneidiau wedi eu golchi yn ngwaed yr Oen yn Niwygiad 1904 a '05. Cyd-deithiai a ni wyr o Ffrainc, Iwerddon, Scotland, a Lloegr, ac un cenhad- wr o China; a'r oil ohonom yn debyg i bererinion yn myned i Jerusalem gyda'r un neges, sef er gweled y gwr sydd gyfrwng yn llaw Ysbryd Duw i ail eni, a I chwildroi bywyd cymdeithasol miloedd Morganwg. Tua phedwar o'r gloch cyrhaeddwyd Nantymoel. Erbyn hyn yr oeddym braidd yn falch iddo beidio myned i Gaerdydd, oblegid ofnai llawer mai meth- iant fuasai ei genhadaeth, gan fod gormod o elfenau Saesneg yno. Ond yr oedd Nantymoel yn bentref Cymreig, ac felly ceid mantais i glywed a gweled y Diwygiwr megis yn ei gartref, ac ymhlith ei bobl ei hun. Yn ng-hapel Dinam (M.C.).- Cyrhaeddodd Mr. Roberts Nantymoel gyda tren 5.30, ond nid aethom i'w gyfarfod i'r orsaf gyda'r crowd, gan nad oeddym yn cymeradwyo y fath beth. Aethom ein pedwar i'r capel erbyn tua pump o'r gloch er mwyn sicrhau lie cyfleus, ond buan y gorlanwyd yr ysgoldy, a chyn chwech o'r gloch yr oedd pob modfedd o hono wedi ei lanvv ac yn wir yr oedd braidd yn anioddefol yno. Methodd canoedd a dyfod i fewn. Ni welais addoldy wedi ei lanw erioed gymaint. Dechreuwyd y cyfar- fod trwy ganu emyn y Diwygiad, Dyma gariad fel y moroedd," &c. Cyn pen lianer awr yr oeddym yn nghanol gwres a theimlad. Merched a meibion am y cyntaf yn gweddio yno. A chanu nad anghofiaf tra byddaf byw. Y gweddiau yn syml, byr, a hynod afaelgar. Ond disgwyl gweled gwyneb y Diwygiwr oedd wedi llanw fy meddwl i, fel nas gallwn yn iawn fwynhau ond ychydig ar y rhan hon o'r cyfarfod. Tua chwarter i saith wele wr ieuanc yn codi ar ei draed i weddio, a dyma weddi. Yr oedd ei dylanwad braidd yn anorchfygol. Cariai bob peth o'i flaen. Yr oedd y gynulleidfa fawr yn ferw drwyddi draw. Disgleiriai gwyneb y gweddiwr fel gwyneb angel. Baich ei weddi ydoedd ar i Dduw godi y bobl i ddis- gwyl wrth yr Ysbryd Glan. A gwaeddai am i'r Arglwydd goui ei meddyliau i "lan," i "lan," i "lan," meddai. Disgynai yr Amenau fel cawodydd, a'r dagrau yn treiglo yn gyflym a distaw ar hyd grudd- iau yr holl dorf. Yna gwaeddai, ar dop ei lais: Duw Pontycymer tyr'd i Nantymoel," Duw Ponty- cymer tyr'd i achub bechgyn dyffryn Ogmore." Codid y gynulleidfa erbyn hyn i bwynt uchel. Clywn lais fy nghyfaill y Parch. William Rowlands, gynt o Bengarnedd, Sir Fonv yn awr, o Mochdre, yn gwaeddi, "Bendigedig" a "Diolch Iddo," a dyma'r fynud gyntaf i mi wybod ei fod yn bresenol yn y cyfarfod. Yn nghornel arall y capel clywid gwraig yn gwaeddi, 0 Arglwydd dere i'r cwrdd, a phlyg y bobl," ac un arall yn llefain am i Dduw achub ei gwr, &c. Ar hyn tarawodd rhywun emyn arall y Diwygiad, Duw mawr y rhyfeddodau maith," &c., a chanwyd hi gyda rhyw eneiniad rhyfeddol. Golwg gyntaf ar y Diwygiwr.—Saith o'r gloch yr oedd Mr. Roberts i fod yn y pwlpud, ac 0, fyn- udau a theimladau rhyfedd oedd y rhai hyn i mi. O'r diwedd, tra yr oedd y gynulleidfa yn repeatio Pa Dduw sy'n maddeu fel Tydi," &c., gwelwn gyffro tua chyfeiriad y fynedfa i'r pwlpud, ac yn sydyn codai y dorf ar ei thraed tan ganu, ac yna wele Mr. Roberts yn dyfod i fewn a gwen siriol ar ei enau. Eisteddai yn dawel a digyffro yn nghanol y berw oedd o'i gwmpas, a'r dorf fawr wedi ymroi i ganu. Syllais ar ei wyneb. Y mae rhywbeth yn anghyffred- in yn ei ymddangosiad. Medda ddau lyg.ad sydd yn siarad cyfrolau; a gwen na welais ei thebyg. Clyw- ais lawer am hyn, ond ni fynegwyd yr haner. Weith- iau gwelid cymylau o bryder ar ei wyneb, pryd arall lawenydd digymysg, weithiau ystorm ddrycinog, bryd arall heulwen hafaidd. Ni welais wyneb mor fyneg- iadol o ystad ysbryd dyn erioed ag yw eiddo y Diwyg- iwr. Y mae'n arbenig yn hyn. Medda lygaid ag sydd yn edrych trwy y gynulleidfa. Gorfodir pawb i fod yn pnest o'i flaen. Yn wir, y mae rhywbeth yn ei wynebpryd sydd yn mesmereisio dynion. Tra yr eisteddai yn y pwlpud parhai y gynulleidfa i ganu gyda llawer iawn o ysbryd, i bob ymddangosiad y geiriau, "Pa Dduw sy'n maddeu fel Tydi," &c. Ond yn sydyn cododd Mr. Roberts ar ei draed, a dywed- odd nad oeddynt oil yn canu a'r ysbryd, ond a'r genau yn unig." Rhoddodd hyn fwy o yni yn y canu am beth amser. Ymhen ychydig fynudau cododd drachefn, a dywedodd "fod yno rhyw chwaer ar fin gofyn am faddeuant." Yna gofynodd i bawb oedd wedi derbyn Crist godi ar eu traed, ac i'r rhai oedd yn rhoddi eu hunain o'r newydd eistedd. Gof- ynwch," meddai, a wnant ei dderbyn; y mae hwn yn gyfarfod i weithio yn ogystal ag i addoli. Gweith- iwch, bobl," meddai. Yna eisteddodd yr holl dorf. Ni chafwyd neb yn foddlawn i roddi ei hun i fyny i Grist. Ond ymhen ychydig amser, dacw rhywun o'r gynulleidfa yn gwaeddi, "fod yno chwaer yn rhoddi ei hun Iddo." Cyflawnwyd felly yn llythyr- enol yr hyn a ddywedodd Mr. Roberts ychydig amser yn gynt. Ar hyn wele'r dorf yn tori allan i ganu Diolch, diolch Iddo, & yn cael eu harwain gan y y Diwygiwr. Nid anghofiaf byth y wen oedd ar ei wyneb pan yn canu y geiriau hyn. Yn sydyn dacw un o ganol y gynulleidfa yn codi ar ei draed i ddweyd ei brofiad. Deg wythnos oed o grefyddwr wyf," meddai, "a bum am un mlynedd ar bymtheg heb ddarllen y Beibl; nis gwyddwn ddim am dano, ond yn awr 'rwyf yn ei ddarllen bob dydd." Ar hyn dacw y Diwygiwr ar ei draed. Pawb," meddai, sydd yn darllen y Beibl bob dydd wnewch chwi godi ar eich traed." Cododd canoedd, ond bu ugein- iau yn ddigon gonest i eistedd. Nis gall neb ragrith- io yn mhresenoldeb Mr Roberts, gorfodir pawb i fod yn onest a didwyll yn ei gyfarfodydd. Wedi hyn dechreuodd y cyfarfod fyned yn oer a difywyd. Ni ddywedodd ond ychydig. Edrychai yn awr ac eil- waith yn myw llygaid pob un o'r gynulleidfa, ac 0, edrychiad! Nis gallaf ei ddesgrifio. Caiff pobl Mon wel'd a theimlo hyn pan y daw yma. Tua wyth o'r gloch eisteddodd, a rhoddodd ei ben rhwng ei ddwy- law, ac felly y bu tan tuag un ar ddeg, a'r cyfarfod yn myned yn ei flaen heb ddim neillduol ynddo- gweddio, canu, adrodd adnodau, dweyd profiadau, &c. Yn sydyn, tuag un ar ddeg, dacw'r Diwygiwr er ei draed, a dyma ddywedodd: Pan ddaethum i fewn yr oedd yr Ysbryd yma gyda chwi, ond mi ddarfu i chwi ei ddiffodd, rhwystrasoch iddo weith- io, diffoddasoch ei gymhellion, gwrthodasoch roddi
" CWRDD GWEDDI Y DIWYGIAD."
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
I Ac er iddynt hwy aeddfedu I'r nef wen cyn toriad gwawr, Credwn eu bod heddyw'n syllu Dros ganllawiau'r nef yn dan wenu, Ar ei ddylanwadau mawr. Fendigedig frwd ddiwygiad, Ceir cwrdd gweddi yn mhob man, A phob un dan ddwyfol deimlad Ynddo'n mynu cym'ryd rhan Acw'n wylaidd,. ar ei gliniau, Mae genethig mewn tristhad, A swn dagrau yn y geiriau Lifant rhwng ei hocheneidiau- Arglwydd! Achub f'anwyl dad Adref, adref, blant afradlon," Gana'r dorf dan wlith y nef, Ac mae'r seiniau'n tori calon Rhyw bechadur,—clywc.h y llef- "Pwy yw hwn sy'n dyfod adref Hen afradlon du ei liw." Diolch, diolch," gwaeddem ninau Ac o bobrnan Ilifalr geiriau—■ Bendigedig fyddo Duw." Fyth gynyddu mae'r gwresogrwydd, Dagrau foddant ruddiau'r llu; Llaw gref gras sy'n cwympo cedrwydd 0 goedwigfa'r gelyn du; Yn y dyrfa canoedd lawer Wedi'u clwyfo welir 'nawr; Ben wrandawyr, yn swn tyner,— Oh! why do you wait, dear brother?" Syrthiant megis dail i lawr. Ceir y Ffrancwr heddyw'n Ngwalia, Yn gweddio'n iaith ei fro; Uchel seinia Pen Calfaria, Nac aed hwnw byth o'm co' Mae Gwr Duw o fryniau'r Alban Yn dyheu am brofi'r tan, Lwyr wresoga ei holl anian, Ac am ddwyn i'w wlad ei hunan Ysbryd tanllyd Gwlad y Gan." Llaw yr Ysbryd sydd yn agor Clo rhyw fron, a seiniau per Lif o'i fynwes,—" Oh! my Saviour, Tell my mother I'll be there;" Iesu, Iesu, 'rwyt yn ddigon/' ,{ Bloeddia gweddw saith-deg oed— Drwy'r btynyddoedd, O! mor ffyddlon i'uost i fy holl anghenion, Prinder ynot ni fu 'rioed." Yn y cwrdd, pob iaith, pob enwad Anwybydda'n llwyr ei hun, Ceir yr oil mewn unol deimlad Yn'dyrchafu "Mab y dyn;" Ar eu deulin mae'r ardaloedd, a ^*orsedd Gras sy'n fiwsig oil v °mae och'neidiau'r lluoedd in dyrchafu yn finteioedd 1'r nef lan, heb un ar goll. Dacw foneddiges fwyngu Yn datganu'r emyn cain Dyma Feibl anwyl Iesu," A dwyfoldeb ymhob sain; Mae pob nodyn gwyd o'i chalon Megis fflam o'r nefol wlad Chwerw'r wyla'r annuwiolion, Ac anffyddwyr gura'u dwyfron, Tra'n cydnabod Duw yn Dad. Dyma gariad fel y moroedd," Trwy'r cyffiniau yw y gan; Moli, moli, mae y miloedd, Doddir gan y dwyfol dan; Mae eu mawl fel dyfroedd lawer Yn ymdoni trwy y wlad, A'u heneidiau'n fyw o hyder, aw y werin oil ar fyrder, Deimlo'r unrhyw wir fwvnhad. Mae'r byddariaid heddyw'n clywed, SWn y tafod," er pob twrdd Mae y deillion oil yn gweled Y Gwaredwr ymhob cwrdd; Mae y cloff yn iach ei gamrau, „ ,A'i gyfeiriad tua'r ne'; Ac yn gymysg a'u hoch'neidiau, DChel floeddiant yn eu dagrau O! na bawn i fel Efe." tledu, lledu mae'r cwrdd gweddi mhob man o ddydd i ddydd oed i holl breswylwyr Cymru Gerdded iddo yn llaw Ffydd 'Hvaled llewyrch ei ddwyfoldeb P cy mylan ddua'i nen a e"ad Head o drag'wyddoldeb, k Jpl^uni Duw'n ei wyneb, lllyr W r CWrdd Sweddi'n Ngwalia Wen. V^ydfil. GWYDDONFRYN,