Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
5 erthygl ar y dudalen hon
-æ-::IIJII. I 0 YNB W YS I…
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
-æ- IIJII. I 0 YNB W YS I AD. I Cymru ar Mesur Addysg 3 I Coroniad y Brenin Iorwerth a'r Frenhines Alex. andra. 3,4 Dlnbych 5 Damweiniau 5 Cymdeithasfa Chwarterol y Methodistlaid Calfin- aidd yn Neheudir Cymru 5, 6 Cymdeithasau Esgobaeth Llanelwy 6 Y Seaedd 7 Y Mesur Addysg 7 Newyddlon Diweddaf .8 Dlgwyddiadau 8 Prlf ErthygIau 9 Llythyr Llundain 9 Eisteddfod Goronog Llangeitho 9 Eisteddfod Pwllheli 9 Cynghor Dosbarth renllyn 9 Newyddlon Oymteig .n 10 Oymdeitbas Amaethyddol Siroedd Dinbych a Fflirtt 10 Barddonlaeth 11 Y B 1' Addysg—gan yr Hen Flaenor' 1L LIoiBon .<II Oyfarfodydd Misol n. 12 CerygydruldloD 12 Bingor 12 Bethesda 12 Addysg ,12 Genedlgaetkau, &a 13 Aberteifl 13 Newyddlon Tramor 13 Gefn Bfeiriadog 13 Marchnadoedd, &o, 13 Manion o Wlad MOn 14 Dyffryn Clwyd 14 Dyffryn Tawe 14 Llanegryn 14 Owrecsam 15 Yr oedd yn Adtabod y Frenhines 15 Llandderfel 15 Marwolaeth y Parch. W. J. Morris, Poatypridd 15 Goheblaothau ]5 Llanartb, Sir Fynwy 15 Eysbysiadau n. 1. 2-15, 16
CYMRU A'R MESUR ADDYSG. PA…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CYMRU A'R MESUR ADDYSG. PA FODD I'W WNEYD YN DDIRYM. CYNLLUN SIR GAERNARFON. Y MAE siroedd M6n ac Arfon o'r dechreu wedi cymmeryd y blaen ar y gweddill o Gymru mewn deffro y wlad i ystyriaeth briodol o ddrygedd y Mesur Addysg pre- sennol. Ac wele yn awr sir Gaernarfon unwaith etto yn tori tir newydd, ac yn dangos ffordd tra effeithiol i wneyd gwein- yddiad y mesur hwn yn ammhossibl yn y Dywysogaeth. Byth er pan gynnaliwyd y gynnadledd fawr ar y mesur yn Nghaernarfon, rai mis oedd yn ol, y mae y wlad wedi bod yn effto ar y cwestiwn. Dri mis yn ol pasiodd y Cynghor Sir benderfyniad cryf o gondemn- iad ar y mesur fel un anfoddhaol, annheg, ac angliyfiawn. Ar gefn y penderfyniad hwnw pennodwyd pwyllgor i wylio y mesur. Cymmerodd y pwyllgor hwnw arno ei hun i basio nifer o 'welliantau' a awgryment ar y mesur'; ac heb ymgynghori a'r cynghor ei hun, danfonwyd y 4 gwelliantau' hyny i fyny i Mr, BALFOUR, a'r awdurdodau eraill yn Llundain. Nid oedd y gwelliantau' hyn, pa fodd bynag, yn cyffwrdd ond yn arwynebol, os o gwbl, a'r drygau y cwynai y wlad o'u plegid, ac a gondemniwyd gan y Cynghor Sir ei hun, Cymmerodd pwyllgor gweinyddol y gyn- nadledd addysg y cyfeiriwyd ati eisoes y mater y fyny. Pasiwyd ganddynt ben- derfyniad cryf yn condemnio gwaith pwyllgor y Cynghor Sir, am,, fod yr hyn a wnaeth yn anghysson a'r hyn a basiwyd gan y cynghor; ac am ei fod, wrth beidio eon am y pethau yn y mesur y cwynai y wlad am danynt, yn rhoi yr argraph nad oedd gwrthwynebiad gwirioneddol i'r peth- au hyny. Danfonwyd copi o'r penderfyn- iad hwn i bob aelod o'r Cynghor Sir cyn y cyfarfod a gynnaliwyd yn Nghaernarfon dydd Iau diweddaf. Dyna yn syml yr amgylchiadau a arwein- iasant i fyny at un o'r golygfeydd mwyaf cyffrous a welwyd erioed yn y Cynghor Sir, ac a fu yn achlysur pasio penderfyniad y gellir dyweyd am dano sydd yn debyg o fod yn benderfyniad hanesyddol, ac yn ddechreuad cyfnod newydd yn y frwydr werinol yn erbyn y Mesur Addysg offeir- iadol. BETH A WNAETH Y CYNGHOR SIR? Yn nghyfarfod y Cynghor Sir, dydd Iau diweddaf, dygwyd adroddiad y pwyllgor ger bron gan ei gadeirydd, yr hwn a gynnyg- iodd yn ffurfiol ei fod yn cael ei fabwysiadu. Yn y man cynnygiwyd gwelliant iddo gan Mr. E. R. DAVIES, Pwllheli, yr hwn, mewn araeth boeth a gwawdlym, a ddangos- odd wendid yr adroddiad, a'r angen am i'r cynghor osod ei droed i lawr yn benderfynol yn erbyn yr ymgais presennol i alluogi yr offeiriadaeth i farchogaeth y bobl unwaith etto. Wele gyfieithiad o'r penderfyniad a gynnygiwyd ganddo:— I Yn ngwyneb gwrthodiad Llywodraeth ei Fawrhydi i ddwyn i fewn i'r Mesur Addysg ddarpariaethau i ddiogelu buddiant y cyhoedd mewn perthynas i Ysgolion Gwirfoddol, er fod holl faich cvfrifoldeb arianol cynnaliaeth yr ysgolion hyny yn cael ei osod ar y trethi lleol a'r rhoddion Ymherodrol, fod Cynghor Sir Gaer- narfon, fel un o'r awdurdodau a bennodir i weinyddu y ddeddf, yn dymuno hysbysu y Llyw- odraeth yn Nby y Cyffredin na fydd i'r cynghor hwn gario allan weinyddiad y mesur yn Sir Gaernarfon hyd nes y gosodir yn y mesur ddar- pariaethau a ddiogelant hawl y cyhoedd.' Eiliwyd y penderfyniad gan Mr. W. J. PARRY, Coetmor—er ei fod yn aelod o'r pwyllgor a gondemnir drwy y penderfyniad. Eglurodd Mr. PARRY ei safle. Ymddengys ei fod, fel Mr. HALDANE, AS, wedi arfer credu y gallesid da o'r mesur hwn, a'i fod felly wedi bod yn barod i gyfarfod y Llyw- odraeth hanner y ffordd pe y dangosent hwythau o'u hochr hwy awydd i gyfarfod dymuniadau y wlad. Ond gan fod y Llyw- odraeth yn anghymmodlawn, credai ef y dylai y wlad hefyd fod yn anghymmodlawn, ac felly pleidiai ef y penderfyniad o wrth- ryfel. Amddiffynwyd y pwyllgor gan y cadeir- ydd, Mr. D. P. WILLIAMS, a clian Mr. ISSARD DAVIES. Gwnaeth yr olaf ymosod- iad chwerw ar fyrddau ysgol; a dywedodd mai clercod byrddau ysgol oedd yn codi cythrwfl yn erbyn y mesur, am fod gobaith eu helw hwy yn difla.nu Cyfeiriodd at yr erthygl gref o dan y teitl Y Dreth a'r Doll' a ymddangosodd yn y FANER, Gorph. 9fed-copi o'r hon oedd wedi cael ei han- fon i bob aelod o'r Cynghor Sir; a'r unig g*yn oedd ganddo yn erbyn yr erthygl hono oedd, ei bod yn dyweyd fod y Mesur Addysg newydd yn gwaddoli Ysgolion Eg- lwysig. Dadleuai, os oedd hyny yn wir, fod Mesur Addysg 1870 yn gwaddoli yr Eglwysi Rhyddion, y Methodistiaid, yr Annibynwyr, y Bedyddwyr, a'r Wesleyaid 1 Ar ol dadl boeth, rhanwyd y ty, pryd y cariwyd y penderfyniad o wrthryfel drwy 21 yn erbyn 13. Wele yr enwau :— Dros y p'enderfyniad.—Mri. Elias Jones (Llaududno), E. R. Davies (Pwllheli), W. J. Parry (Coetmor), J. Jones Morris (Porthmadog). Dr. W. M. Williams (Penmachuo), H. Owen (Llandudno Junction), Hugh Owen (Perth Din- orwig), Robert Evans (Hen Golwyn), R. O. Jones (Waenfawr), W. II. Jones (Llanberis), W. Jones (Ciynog), Parch. G. Caidiog Roberts (LJan- llyfni), R. O. Williams (Dolbenmaen) William Pritchard (Llanystumdwy), Parch. J. Davies (Llithfaen), Griffith Jones (A berdaron), E. M. Jones (Bangor), Thomas Edwards (Bangor), J. T. Roberts (Caernarfon), Maurice Jones (Pwll- heli), a J. 0. Hughes (Llanrug)-21. Yn Mri. D. P. Williams (Llanberis), J. Menzies (Caernarfon), R. Thomas (Criccietb), Ephraim Wood (Pabo Hall), R. Conway (Llan- dudno), J. T. Jones (Criccieth), P. M'lntyre (Llanrwst), William Jones (Llanwnda), E. H. Owen (Carnarfon), Milwriad Wynne Finch, J. Evan Roberts (Bangor), J. Issard Davies (Caer- narfon), a'r cadeirydd, Charles A. Jones, (Caer- narfon)—13 Aeth allan heb bleidleisio.-Mr. J. Hughes, Porth Dinorwfg. Absennol o'r cyfarfod.—Mri. Thomas Lewis (Bangor), Anrhyd. H. Lloyd Mostyn (Conwy), J. R. Pritchard (Caernarfon), H. Tudwal Davies (Pwllheli), J. E. Graves (Glanguna), E. Jones (Conwy), D. Lloyd-George A.S., J. B. Roberts. A.S., Anrhyd Frederick Wynne (Glyollifon), C. H. Darbishire (Penmaenmawr). D. G. Davies (Bathesda), Richard Davies (Porthmadog), J. Edwards (Gerlan), William Evans (Llandudno), 0. Wynne Griffith (Pwllheli), T. E. Griffith (Galltyberen), Robert Hughes (LIaufairfechan), T. S. Ingham (Llanddeiniolen), John Elias Jones (Llandwrog), John Evans Jones (Trefriw), Henry Parry (Glan'rafon), Arglwydd Penrhyn, Dr. Pritchard (Conwy), Griffith H. Roberts (Edeyrn), Thomas Roberts (Aber), T. Robinson (Talsarn), Richard Thomas (Caernarfon), Abel Williams (Abersoch). J. Pentir Williams (Ban- gor)—29. Yr ydym yn rhoddi yr holl enwau fel hyn am fod y rhaniad, fel y dywedasom, yn un hanesyddol, a'i bod weithian mor ddymunol i'r wlad gael gwybod sut y mae ei chynnrych- iolwyr ar y Cynghor Sir yn gweithredu ar adegau pwysig ag yw iddynt wylio gweith- red3edd eu haelodau yn y Senedd. Gellir dyweyd am lawer o'r absennolion hyn y buasent, pe yn bresennol, yn sicr o bleid- leisio gyda'r mwyafrif; am eraill, mae lie i ofni eu bod wedi cadw draw rhag gorfod gwynebu cwestiwn a ymddangosai iddynt hwy yn un tra chynnil. Teg yw dyweyd hefyd fod o leiaf bedwar neu bump o'r rhai a bleidleisient yn erbyn y penderfyniad wedi amlygu eu bod yn gwneyd hyny oddi ar deimlad o flyddlondeb i'r pwyllgor, er eu bod yn cydsynio â'1' hyn a ddywedwyd gan gynnygydd ac eilydd y penderfyniad, i PA BETH A OLYGA'R PENDERFYNIAD? Yn awr edrychwn ar yr hyn a olygir wrth y penderfyniad hanesyddol hwn. Golyga, os daw'r Mesur Addysg presen- nol yn ddeddf, heb roi i'r bobl lywodraeth dros yr Ysgolion Gwirfoddol, y gwrtlioda Cynghor Sir Gaernarfon weinyddu y ddeddf. Syrth y ddeddf felly yn llythyren farw yn y sir. Bydd yn ammhosibl ei chario allan yno. Pe gwnai Cynghorau Sir eraill Cymru yn gyffelyb nis gellid rhoi'r mesur mewn grym yn Nghymru. Golyga, wrth gwrs, yn mhellach, fod y Oyngor Sir yn codi mewn gwrthryfel yn erbyn y Llywodraeth. Golyga gyda hyny fod y Llywodraeth yn debyg o osod cyfraith ar y Cynghor Sir, gan alw am Mandamus i'w gorfodi i gario y ddeddf allan. Golyga i'r Cynghor Sir amddiffyn yr achos mewn Ilys cyfraith. Golyga hyny draul o rai cannoedd o bunnau. BETH A ENNILLIR DRWY HYN ? Trwy fabwysiadu y cwrs hwn ennillir amryw bethau. Argyhoeddir y Llywodraeth fod y wlad o ddifrif yn ei gwrthwynebiad anghymmod- lawn i'r mesur anghyfiawn a gormesol hwn. Gelwir sylw'r deyrnas mewn modd eff- eithiol at y ffaith fod y trethdalwyr yn hawlio llywodraeth ar yr ysgolion a gyn- nelir drwy eu harian hwy. Gosodir y Cynghor Sir, fel cynnrychiol- wyr etholedig y bob!, yn ffrynt y frwydr dros ryddid gwladol a chrefyddol. 0 DDAU DDRWG DEWISIR Y LLEIAF. Yr unig gwrs arall drwy yr hwn y gellir gwrthwynebu gweinyddiad y mesur yw trwy i drethdalwyr unigol wrthod talu'r dreth at yr Ysgolion Gwirfoddol. Ond beth a olygai hyny ? Golygai, yn y lie cyntaf, fod ychydig o ddynion cydwy- bodol yn gorfod dioddef cael eu haberthu, a'u dyfetha yn eu hamgylchiadau bydol, drwy eu bod yn amddiffyn hawliau eu cyd- ddynion. Golygai, yn mhellach, nas gall- asent wrthod talu y Dreth Ysgol heb wrthod talu y trethi lleol eraill, megys treth y tlodion, treth yr heddgeidwaid, treth llywodraeth leol v sir—gan y buasai y Dreth Ysgol yn gynnwysedig yn y Br 3th Sir. Pe ceid llawer i wrthod talu y dreth eymmysgid holl olwynion llywodraeth a gwaith swyddogol y sir. Yn mhellach na hyn etto-y Cynghor Sir yw yr awdurdod trethiannol at amcanion y ddeddf. Buasai y Cynghor Sir felly, a etholir gan Ymneillduwyr, yn codi treth a fyddai yn adgas gan yr Ymneillduwyr. Pe ymladdai trethdalwr yn erbyn y dreth, ymladd a fyddai nid yn erbyn y Llywodr- aeth, ac nid yn erbyn yr offeiriad, ond yn erbyn y Cynghor Sir a etholwyd ganddo ef ei hun. Felly dyma sefyllfa y Cynghor Sir. Os daw y mesur yn ddeddf, ac os yw Ymneill- duwyr o ddifrif pan yn dyweyd na thalant y Dreth Ysgol Eglwysig, 6 RHAID I'R CYNGHOR SIR YMLADD. Rhaid iddo ymladd y Trethdalwr os myn godi y dreth. Rhaid iddo ymladd y Llywodraeth os na fyn godi y dreth. Os ymladda yn erbyn y Trethdalwr, bydd y Cynghor Sir yn gwneyd ei hun yn Feili dros yr offeiriad i godi treth a ystyrir gan y trethdalwr yn un anghyfiawn. Os ymladda yn erbyn y Llywodraeth, bydd yn rhoi amlygiad ymarferol i ddymun- iadau yr Etholwyr a'r Trethdalwyr. Felly, dewis y lleiaf o ddau ddrwg a wnaeth Cynghor Sir Gaernarfon drwy hys- bysu ar goedd gwlad na fydd iddynt fyned yn offeryn yn llaw yr offeiriad i ormesu y Trethdalwr na'r Ymneilldiiior. MANTEISION Y CYNLLUN. 1. Bydd yn fwy effeithiol. Yn lie tod ambell un hwnt ac yma yn gwrthwynebu y Mesur, bydd sir gyfan yn gwneyd. 2. Bydd yn jwy rhwydd. Rhwyddach fydd i Gynghor Sir, sydd yn cynnrychi&li yr holl bobl, gario y frwydr yn mlaen nag a fyddai i'r trethdalwr unigol. 3. Byddynfwy teg. Nid teg yw abertitu ambell un pan fo yr holl wlad yn teimla. O dan y cynllun hwn, yn lie bod un g$r yn cael ei wneyd yn aberth, bydd sir drwy ei'chynnrychiolwyr etholedig, yn aim- ddiffyn bawliau y werin. 4. Gorfoda y gormeswr i dalu am ei ? ormes, Pe gwtthodai dyn dalu y dretb buasai yr offeiriad yn defnyddio y Cynghor i Sir drwy ei swyddogion i werthu eiddo y dyn er cael arian y dreth. Ond os gwrth- oda'r Cynghor Sir osod y dreth, ac os syrth, costau ar y Sir o herwydd hyny, yna bydd, ya rhaid i'r cyfoethogion, y tirfeddianwyr, yroffeiriaid, aceraill sydd yn gwthio y mesur anghyfiawn ar y wlad, dalu drwy y trethi eu llawn gyfran hwy tuag at y draul. Cyflwynwn y pethau hyn oil i ystyriaeth ddifrifol cynghorau eraill Cymru—ac i'w hetholwyr. Mewn argyfwng pwysig fel hwn dyledswydd yr etholwyr yw mynu gweled fod eu cynnrychiolwyr yn cario allan ddymuniad y bobl a'u hetholasant.
CORONIAD Y BRENIN IORWERTH…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CORONIAD Y BRENIN IORWERTH A'R FRENHINES ALEXANDRA. GORYMDAITH FA WREDDOG. SEREMONI EFFEITHIOL, BRWDFRYDEDD TEYRNGAROL Y BOBL, FEL y gwelir oddi wrth yr adroddiad maith a dyddorol a geir mewn colofnau eraill yn y rhifyn hwn, coronwyd y Brenin TORWERTH y Seithfed a'r Frenhines ALEXANDRA y Gyntaf dydd Sadwrn diweddaf, yn Monach- log fyd-enwog Westminster, gyda'r defodau arferol, ao mewn rhwysg anarferol Ar awr anterth dodwyd ei goron ef ar ben y Brenin gan Archesgob CAERGAINT, a'i choron hithau ar ben y Frenhines gan Archesgob CAEREFROG. Ysblander yr olygfa orwych ydoedd yn mhell tu hwnt pob disgrifiad y gall ein hysgrifbin ni ym- gyrhaedd ato. Yr oil y gallwn ei ddyweyd ydyw, na fu yn Mhrydain erioed o'r blaen ddim i'w gystadlu ag arddangosiad y Sadwrn bythgofiadwy hwn. Amryw ystyr- hethau a gydunent i beri neillduolrwydd arbenigol yr amgylchiad. Yn gyntaf oil, ni fu coroni penadur yn mhrifadinas ein hymherodraeth er's mwy na chwe deg o flynyddoedd. At hyn chwaneger y ffaith fod y coroniad wedi ei drefnu yn ei holl fanylion chwech wythnos yn ol. Ond yn lie gorhoian, chwerwder a fu y pryd hwnw. Yn lie coroni, gweithrediad meddvgol o'r fath fwyaf peryglus. Gwylio ystafell cys- tudd yr oeddis y pryd hwnw; ac ofnai rhai mai ei throi yn borth angeu a fyddai y canlyniad. Duw Naf a gyfryngodd i arbed bywyd ei Fawrhydi, gan ei nerthu i ddal yr oruchwyliaeth ar yr eilddydd pennodedig. I'r ofergoelion ehud, a'r daroganiadau sipsiwnaidd y bu cymmaint o ledaenu arn- ynt, a phoblach ehud yn chwannog osod eu cred ynddynt, ya flaenorol i'r amgylchiad, rhoddodd y weithred ei hun dorfyiaygliad effeithiol. 'Ni choronir ef byth l' ebai y swynwyr a'r brudwyr; a cholyddion y planedau a'r dewiniaid yn adseinio y ddar- ogan erch. Y mae efe wedi ei goroni, a'i gymmhares hawddgar gydag ef. Ffaith y coroniad, hefyd, a ddylai fod yn foddion llwyr wellhad iddo yntau ei hun, canys allan o reswm ynom a fyddai anghredu yr adroddiadau ynghylch pryder y meddwl brenhinol ynghylch yr oruchwyliaeth, ac ofnau naturiol ei galon rhag mai ail siom- edigaeth i fyrddiynau a fyddai yn cael ei rhoddi. Ysgafnhad ysbryd i IORWERTH VII. ydyw gallu edrych yn ol ar bob peth wedi myned heibio yn ddibrofedigaeth; yntau ei hun heb fod fymryn gwaeth o'i ludded, a'i ymherodraeth wrth ei bodd. Yn ddi-brofedigaeth Do aeth pob peth heibio heb dramgwydd, niwed, na rhwystr. Yr oil, o natur anffawd neu anhap o fewn cylch gweithredol y coroniad ydoedd liewyg ysgafn archesgob patriarchaidd Caergaint, Dywedwn etto y bydd gallu ymgysuro yn ei goroniad fel ffaith yn gymmhorth i brys- uro ei lwyr adferiad. Ac yn hyn y llawen- ychwn ninnau. Wrth gwrs, ni a gydym- deimlwn ag unrhyw ddyn dan gystudd trwm, ac a eiddunwn ei adferiad-am ei fod yn gyd-ddyn. Ond ein brenin ydyw, Pen a Llywydd ein Gwladwriaeth. Am hyny, fel deiliaid-teyrngar, ni a hyderwn, yn ei wladwriaeth-yr ydys dan rwymau chwanegol i ymgysuro yn mhob peth ag y I byddo ynddynt duedd i gryfhau nerth ei 'I. iechyd ef, ac i ddwyn elfenau newyddion i bapusrwydd ei fywyd fel dyn, ac fel ein penadur. Pob peth yn dda, gan hyny, mor I bell ag y mae ei goroniad yn myn el. I Tra nad ydym yn dewis cael ein rhestru yn mysg y rhai a gredant fod rliin cjfrlniol yn y weithred noeth o goroni penadur gwlad etto edrychwn arni fal un ag y bydd y brenin yn myned trwy weithred grefyddol uchelryw o ymgyssegriad i'w swydd, i wwinyddu ynddi dan nawdd ac arweiniad Duw. Doethineb oddi uchod, synwyr cryf, a buchedd deil- wng a ddyry i frenin gyssegredigaeth yn nghyflawniad ei ddyledswyddau gor- bwysig, yn gymmhwys fel y rhoddant i ninnau yr un a'r unrhyw gyssegredig- aeth i'n gwaith yn ein cylchoedd is-raddol iddo mewn cymdeithas. Ynddo ei hun nid ydyw ordeiniad ffurfiol dyn i swydd — brenin, gweinidog yr efengyl, &e. — yn chwanegu iota at ei gymmhwysderau. Rhaid iddo feddu y rhai hyny yn flaenorol, onid e gwell iddo ymgroesi rhag myned dan dywalltiad Colew yr eneiniad' ar ei ben. Yr oil a wna yr I eneiniad fydd chwanegu at ei ddylanwad, os bydd pob peth arall yn cyfatteb. Gan na pherthyn i ni yn yr erthygl hon gyflwyno i'r darllenydd ddim ond adfyfyrion cyffredinol ar yr amgylchiad, a gadael i'n gohebwyr ei arwain i bresennoldeb y golyg- feydd eu hunain, caniataer i ni, gyda chryn fesur o hyfrydwch droi at agweddau yr wyl yn ei pherthynas a'r 'werin a'r miloedd,' ys dywedir. Ni chamgymmerem, y mae yn sicr, pe dywedem fod y ffurflywodraeth Brydeinig, o'i haen uchaf yn y frenhiniaeth, hyd i'r iselaf (gan nad pa un ydyw hono), yn drwyadl ddemocrat- aidd. Y bobl-y werin-y ddemocratiaeth, wedi y cyfan, ydyw y gallu cryfaf yn ein plith. Y cyhoedd, dyweder a ddyweder, a thaerer a daerer, ydyw ffynnonell yr aw- dardod yn Mhrydain Fawr. Yn Rwssia a Thwrci nid ydyw y bobl, fel "y cyfryw, i mewn yn y cyfrif. Yn Msrydain, ar y Haw arall, y werin ydyw y ffigiwr sydd yn rhoddi gwerth yn O '-au y swyddau, uchel ac isel, mawr a man. Yr oedd yn Llundain dydd Sadwrn ymwel- wyr o bob parth o'r byd. Ond, yr ydym yn sicr mai un o'r pethau a dynai eu sylw yn mlaenaf ydoedd poblogrwydd' yr arddangosiad. Ag appel at y bobl yr agorwyd y seremoni, yr hyn a gydnabyddai yn amlwg ma.i yn ol ewyllya y bobl y cymmerai y coroniad Ie. Chwareu teg iddo Y mae y Brenin IORWERTH ar bob acklysur wedi dangos ei fod ef yn deall yn burion pa beth yw egwyddor sylfaenol ei Lywodraeth. Nid ydyw ei brifweinidog- wedi penfeddwi ar ychydig wythnosau o swydd-yn ymddangos o gwbl o'r gred hon. Gallem dybio mai ei farn ef ydyw fod yr awdurdod oruchaf yn ein gwlad yn gor- phoredig yn yr offeiriadaeth yn eglwysi Lloegr a Rhufain. Didwyllir ef yn effeith- iol un o'r dyddiau nesaf. Diolchwn fod ein brenin yn ddoethach na'i brifweinidog. Yr hyn y mae v brenin wedi ei ddysgu—yr hyn y rhaid dysgu y prifweinidog hefyd ynddo -ydyw, mai trwy fodd ac ewyllys da-ac nid trwy orfodaeth-y cymmer y Ddemo- cratiaeth Brydeinig ei llywodraethu. Hir oes i IORWERTH y Seithfed! Caffed deyrn- asu mewn tawelwch yn ol rheol uniondeb flynyddoedd lawer. Hir oes i'w briod, hefyd Rhynged bodd Rhagluniaeth dda arbed y ddau yn faith i'w gilydd, i'w teulu, ac i'w gwlad
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CEID arwyddion digamsyniol yn mhob cyfeiriad trwy y deyrnas fod dydd Sadwrn, Awst .9fed, yn ddiwrnod pwysig yn hanes y wlad bon ac nid oedd hyny i'w weled mewn un man yn fwy am- lwg nag yn y brifddinas.
O'R PALAS I'R MYNACHLOG.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
O'R PALAS I'R MYNACHLOG. Yr oedd Palas Buckingham, yn ddigon natur- iol, yn brif ganolbwynt attyniad, gan mai oddi yma yr oedd y brenin a'r frenhines yn cychwyn allan. Yr oedd pob dosbarth o bobl wedi de- chreu ymgynnull o dan gysgod y coe iydd yu Mharc St. James mor foreu a saith o'r glocb. Yr oedd y tywydd yn ymddangos yn ffafrioL Yn mhen rhyw awr ol hyny ceid golygfa hynod o fywiog tua'r rhanbarth hwnw. Dylifa y corphluoedd y naill ar ol y llall, yn cael eu dilyn gan eu seindyrf, pa rai, wrth basio y palas. brenhinol, a chwareuent yr Anthem Genedl- aetbol, tra yr oedd pawb o'r edrycbwyr wedi tynu eu hetiau, ac yn tori ailan mewn cymmer- adwyaeth. Gwnaeth y Maeslywydd, y Due o Connaughfc, yr hwn oedd y prif lywydd ar y corphluoedd, ei ymddangosiad yn fuan, a rhodd- ai y gyunulleidfa gymmeradwyaetb galonog iddo, tra yr oedd yn symmud or naill Ie i'r llall, gan roddi ei orcbymynion i'r gwahanol gatrodau o Borth Buckingham i Constitution Hill, yr oedd adran o gatrawd Cernyw yn ymestyn yn un llinell sengl ar bob ochr i'r rhodfa ar bob ochr i'r Palas. O'r tu allan i byrth y Palas, ar yr O-hr ddeheu, yr oedd adran o gadysgolorion Woolwich yn eu dillad glâs, ac yr oedd yno rai