Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
9 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
9 erthygl ar y dudalen hon
TY YR ARGLWYDDI.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
TY YR ARGLWYDDI. DYDD FAWETH, Awst 5ed.-Cymmerodd yr Arglwydd Janghellydd ei eisteddle am chwar. ter wedi pidwar. larll Onslow, Is ysgrifenydd y Trefedigaeth au, mewn attebiad i gwestiwn o eiddo Arglwydd Killanin, a ddywedodd nad oedd y Llywodr- aeth. wedi derbyn rhybuddswyddogolounrhyw ymdrafodaeth oedd yn cael.ei chario yn mlaen rhwng Cwmni Ffordd Haiarn Tawelfor Canadit a Llywodraeth Canada, mewn perthynas i estyn cynnorthwy i wasanaeth cyflym i deithwyr ar draws y Werydd. A chyda golwg ar y cynnyg- iad i gren porthladd terfynol ar gyfer y cyfryw wasanaeth ar Lanau Gorllewinol yr JLwerddon, nid oedd unrhyw ammheuaeth na chymmerid hawliau yr Iwerddon o dan ystyriaeth; ond yr oedd efe yn credu fod yna borthladdoedd craill yn y Deyrnas Gyfanol oedd yn hawlio yr un ystyriaeth Yr oil a allai ef ei ddyweyd ydoedd, os byddai i'r rhai oedd yn teimlo dyddordeb yn y cwestiwn hwn ddwyn eu hawliau yn mlaen, y byddai i'r Llywodraeth weled fod y mater yn cael el ddwyn i derfyniad teg. Gohiriodd y Tý am ddeng munyd wedi pump.
, TY Y CYFFREDIN.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
TY Y CYFFREDIN. DYDD MAWRTH, Awst 5ed.-Cymmerodd y Llefarydd y gadair am ddau o'r gloch. Busnes y Ty. Mr. Balfour, mewn attebiad i Mr. Bryce, a ddywedodd, os na byddai i'r Ttf orphen y 9eithfad adran o Fesur Addysg dydd Mercher neu dydd Iau, y byddai yn rhaid gohirio y gwyliau. CYFLENWAD. Wedi hyny aeth y Ty yn mlaen i ystyried adroddiadau a basiwyd mewn pwyllgor cyflenwad. Yn mysg y pyngciau a g.iwsant eu dadleu yr oedd sefyllfa y bobl yn rhanbarthau poblog Ysgotland, y rhodd tuag at Oriel Genedlaethol Ysgotland, a sefydliadau eraill, addysg gyhoeddus yn Ysgotland, tanysgrifiadau y Trefedigaethau i'r llynges, gwiblongau mar- siandwyr, a nodwedd y berwedydd a ddefnyddid yn y llynges. Yn yr eisteddiad hwyrol cymmerodd dadl le ar Weidlais o 16 C66,00,o. tuag at luniaeth y fyddin, porthiant, a chyilenwadau eraill. Cyttunwyd ar y bleidlais hon, ynghyd fig amryw bleidleisiau eraill, Mesur yr Appropriation.' Wedi hyny dygwyd Mesur yr Appropria tion i mewu, a darllenwyd ef y waith gyntaf. Cododd y Tý am bum munyd ar hugain i un. e
TY Y CYFFREDIN.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
TY Y CYFFREDIN. DYDD MERCHER, Awst 6ei. — Cymmerodd y Llefarydd y gadair am ddau o'r gloch. Yr Appropriation Bill.' Wedi i Syr M. Hicks-Beach gynnyg fed yr Appropriation Bill yn cael ei ddaiilen yr ail waith, galwyd sylw at ANGHYDWELEDIAD CHWAREL Y PENRHYN. Mr. W. Jones a ddywedodd ei fod yn teimlo yn rhwym o drafFerthu y Tý unwaith etto gyda chwestiwn diwydiannol pwysig, yr hwn oedd wedi codi mewn canlyniad i'r cam- ddealltwriaeth annedwydd, yr hwn oedd wedi parhau yn awr am dros 21ain o fisoedd, rhwng Arglwydd Penrhyn a'i weithwyr. Yr oedd yn codi y mater hwn yn neillduol yn awr mewn perthynas ftlr ddeiseb a aufonwyd i'r brenin ryw yehydig wytbnosau yn ol,gan drefniant oedd heb fod yn un gwleidyddol, yn Llundain, yn deisyf ar ei Fawrhydi i gyfryngu (cym ). Anfonodd y brenin atteb- iad cydymdeimladol iawn at y deisebwyr, yn gofidio o herwydd yr anghydwelediad, a'i anaUu i gyfryngu, ond yn awgrymu yr anfonid y llythyr i'r Bwrdd Masnach. Yn ddigon naturiol, yr oedd y rhai a deimlent ddyddordeb yn y mater yn meddwl fod yr awgrym hwnw yn gosod allan rwymedig- aeth, os inad parodrwydd, ar ran Hwrdd Masnach i gymmeryd y mater i fyny. Buasai yn dda ganddo ef wybod beth oedd agwedd adran llafur o Fwrdd Masnach mewn per- thynas i lythyr y brenin. Gwyddent oil i'r Llywodraeth Geidwadol, yn 1896 basio Cyfraith Cymmod, a buasai yn dda ganddo ef wybod a oedd Bwrdd Masnach wedi gwneyd yradrech yn yr amgylchiad presen- nol i ymarfer unrhyw un o'r galluoedd oedd yn cael eu hestyn iddynt o dan y gyfraith hono. 0 dan Ddosraniad D. o adran 2, ar gais y ddwy blaid oedd mewn anghydweled- lad, gallai Bwrdd Masnach bennodi cylafar- eddwr. Wrth gwrs, nid oedd yna gais wedi cael ei wneyd gan y ddwy blaid yn yr achos hwn; felly, gallai Bwrdd Masnach ddyweyd nas gellid symmud yn dda yn nghyfeiriad cylafareddiad. Yr oedd is-adran araU, modd bynag, yn dadgan, ar gais un o'r fdeidiau, ac ar ol cymmeryd i ystyriaeth annigonol- rwydd y moddion a ellid eu defnyddio er cario allan gymmod yn y gymmydogaeth, I neu yn y fasnach, ac amgylchiadau yr achos, y gallai Bwrdd Masnach bennodi person neu bersonau i weithredu fel cymmodwr neu fwrdd cymmod (cym ). Yn yr achos hwn, gallai Bwrdd Masnach ddyweyd nad oedd un or pleidiau wedi gwneyd cais, ac nad wl oedd yna un moddion o fewn eu cyrhaedd; ond da fyddai ganddynt wybod beth fyddai agwedd y bwrdd pe gwnelai y gweithwyr y cyfryw gais ag a wnaethant yn 1897. Mewn perthynas i'r moddion a ellid eu defnyddio, yr oedd llawer o geisiadau wedi cael eu gwneyd gan bersonau di-duedd i hyrwyddo cymmod, a gallai Bwrdd Masnach fod yn sicr fod digon o foddion cymmod yn y rhan hono o'r wlad. Ond nid oedd y rhai hyn yn dyhysbyddu galluoedd Bwrdd Masnach. Dadganai is-adran B. o'r gyfraith y gallai y bwrdd gymmeryd y cyfryw gwrs ag a ystyrid yn gyfaddas er galluogi y pleidiau i gyfarfod a'u gilydd eu hunain, neu eu cyn- nrychiolwyr, o dan lywyddiaetb cadeirydd y cyttunid arno gan y jddwy blaid, neu a Î enwid gan Fwrdd Masnacb, neu gan ryw berson neu gorph, gyda'r am can o bender- fynu y gwahaniaeth mewn modd cyfeillgar. Gallai Bwrdd Masnach wneyd hyny, pa un bynag a oedd un o'r pleidiau wedi gwneyd cais ai peidio. Dracliefn, yr oedd is-adran A. o'r un adran yn galluogi y bwrdd i wneyd ymchwiliad i achos ac amgylchiadau y gwahaniaeth. Dymunai ef gael gwybod pa un a. oedd unrhyw un o'r galluoedd hyn wedi cael en rhoddi ar waith gan Fwrdd Masnach; ac os nad oeddynt, pa ham (cym.) ? YMGEISIADATJ BLAENOROL I SICRHAU (JYTTUNDEB. Gwnaed tri ymgais gan gyrph o'r tu allan i geisio terfynu yr anghydwelediad, ond yr oedd yn ddrwg ganddo ddyweyd i'r oil ddi- weddu mewn methiant truenns. Gwnaed y diweddaf yn Chwefror, gan Gynghor Sirol sir Gaernarfon, y rhai a bennodasant ddau foneddwr i weithredu fel cynnrychiolwyr, un o ba rai ydoedd uchel-sirydd y sir, ac o'r un daliadau crefyddol a gwleidyddol ag Arglwydd Penrhyn ei hun, a'r Hall yn Rhyddfrydwr o ran gwleidyddiaeth, a chyn- gadeirydd y cynghor sirol. Yr oedd y ddau foneddwr hyn yn ynadon, ac yn ddynion yr oedd gan. nid yn unig y cynghor sirol, ond yr oil o Gymru, yr ymddiriedaeth Iwyraf ynddynt. Cymmerodd gohebiaeth le gyda'r amcan o ddwyn y pleidiau at eu gilydd. Darfu i gynnrychiolwyr y Cynghor Sirol sicrhau Arglwydd Penrhyn mai unig amcan y Cynghor Sirol ydoedd cynnyg ei wasanaeth cyfeillgar i'r ddwy ochr, ac nad oedd gan- ddynt hwy unrhyw ddymuniad i gyfryngu rhwng y meistr a'r gweithiwr. Gofynasant, yn gyntaf oil, am gael ymgom a'r rhai a gydnabyddid fel cynnrychiolwyr y dynion, a chydsyniwyd a hyny yn union. Buont wedi hyny mewn gohebiaeth ag Arglwydd Penrhyn. Yn ei attebiad diolchai Arglwydd Penrhyn iddynt am y dull boneddigaidd yr oeddynt wedi ymgymmeryd a'r pwnge, ond dadganodd iddo ef, ar ddecnreu yr helynt, wrthod cydnabod bodolaetli unrhyw hawl i ymyriad gan unrhyw berson, neu gorph corphoredig, oedd heb fod yn dwyn unrhyw gyssylltiad a'r chwarel (' cywilydd'). Chwanegodd Arglwydd Penrhyn, ar yr un pryd, Yr wyf yn llawn werthfawrogi bwriad- au da y cyngbor wrth ddymuno cymmeryd unrhyw gam o fewn eu gallu a allai dueddu tuag at ddwyn yr anghydwelediad annedwydd hwn i derfyniad ac os ydych yn meddwl fod yna unrhyw amcan d i i'w gyrhaedd trwy gael ymgom, gan fy mod hyd yma yn analluog i adael fy ystafell, yr wyf wedi cyfarwyddo Mr. Young (y prif oruchwyliwr) i'ch cyfarfodchwi.' Mewn attebiad i gais am gael ymgom berson- ol Ag ef, ysgrifenodd Arglwydd Penrhyn:— Yr wyf yn argyhoeddedig jr byddai i ymgom e'r natur hono gael ei hesbonio mewn modd drygionus i ddadganiad ty mod yn awr yn cydnabod yr egwyddor o ymyriad o'r tu al!an, fel yr wyf yn goiidio nas gallaf roddi yr ym- gynghoriad hwnw i chwi.' Cnwanegodd Argl- wydd Penrhyn, ac yr oedd y geiriau hyn yn dra arwyddociiol. 'Vr wyf, modd bynag, yn mhell o ddymuno dwyn i mewn unrhyw rwystr yn y ffordd o roddi i fy niweddar weithwyr y fantais o'ch cynghor; ac os gellwch fy sicrhau fi eich bod yn glynu yn fanwl at eich myneg* iad mewn perthynas i anymyriad, bydd yn dda gan Mr. Young ei jh cyfarfod yn ei swydd- fa, a rhoddi i chwi unrhyw hyebysrwydd pell, ach a allai eich cynnorthwyo chwi, ar y deill- twriaeth fod unrhyw ymdrafoclaeth o berthynas i all ddechreu gweithio yn fy chwarel gan y cyfryw o'm diweddar weithwyr ag wyf yn barod ïw derbyn yn ol i ddyfod yn union. gyrchol oddi wrth y dynion eu hanain, ac nid trwy gyfrwng y drydedd blaid Teimlai cyn- nrychiolwyr y Cynghor Sirol, yn naturiol, yn siomedig, yn enwedig ar ol i Arglwydd Pen rhyn ddio'ch i idynt yn ei lythyr cyntaf am y modd boneddigaidd yr oeddynt wedi dynesu ato. Mewn perthynas i ymddygiad y dynioE, yr oedd y ddirprwyaeth wedi gwneyd cofnod iad fod y dynion wedi j symmud pob pwynt a allai fod yn rhwystr ar ffordd cyfarfod Argl. wydd Penrhyn. A oedd yn bossibl trefnu cyttundeb cyfeillgar, pan nas gallai y ddir- prwyaeth ddal ymgynghoriad ond & Mr. Young yn unig, gwas i Arglwydd Penrhyn, yr hwn oedd wedi cael ei feirniadu aiewn cyssyllt- iad a goruchwyiiaeth y chwarel ? Ysgrifenodd cynnrychiolwyr y Cynghor Sirol at Arglwydd Penrhyn Ysgrifena eich arglwyddiaeth fel pe buasech yn disgwyl i ni gymmeryd ochrau, a chyfarwyddo y dynion yn unig, tra yr oeddym ni wedi gwneyd ymgais i gario allan benderfyniad y Cynghor Sirol, trwy weled y ddwy blaid oedd yn dwyn cysaylltiad & hyn.' Yn eu llythyr diweddaf priodolent eu diffyg llwyddiant i waith Arglwydd Penrhyn yn gwrthod rhoddi iddynt ymgynghoriad personol, ac i'r rhesymau a nodwyd mewn llythyr blaenorol. Yr oedd agwedd y dynion, y rhai oedd yn foddlawn i gyflwyno y cwestiwn i gylafareddiad neu gymmod, wedi cael ei gymmeradwyo, nid yn unig gan y Cynghor Sirol, ond gan agos bob U ndeb Masnachol yn y wladjacyn ei adroddiad, sylwai Cynghrair Cyffredinol yr Undebau Masnachol: 'Yr ydym ni yn credu fod chwarelwyr Bethesda yn ymlidd am yr oil sydd yn gwneyd Prydeiniwr yn deilwng o'r enw-eu hannibyniaeth a'u dynoliaeth' (cym). Yr oedd y dynion, drosodd a tihiosocfd, wedi dadgan wrtho ef, ac eraill, eu parodrwydd i osod yr holl fater yn nwylaw llys diduedd; ac etto, dyaa'r modd yr oedd Arglwydd Penrhyn yn ymwneyd a phob ymgais at gymmod. Yn nghwrs yr 21 mis dros ba un yr oedd yr anghydwelediad wedi parhau, yr oedd yna gryn lawer o gyfyngder wedi cael ei deimlo yn y rhanbarth hwnw. Yr oedd rhai o'r dynion wedi myned yn ol i'r chwareli; ond allan o'r 2,800 oedd yn arfer gweithio yn y chwareli, yr oedd dros 2,000 heb ddychwelyd. Yr oedd tun. 700 yn gweithio, ond nid oedd mwy na banner y rhai hyn yn streicwyr. Yr oedd gryn nifer o'r gweithwyr medtus wedi cael eu cadw o'r chwarel. Er fod ganddynt undeb cryf, ac er fod y gweithwyr Prydeinig wedi eu cynuorthwyo, yr oedd yna gyfyngder. Yr oedd Cynghrair Undebau Masnachol wedi anfon dirprwyaeth ar ol dir prwyaeth i wneyd ymchwiliad i'r ffeithiau a chaed allan, er nad oedd dioddefaint gwirion. eddol, nad oedd yr hyn a dderbynient ond yn ddigoh i gadw corph ac enaid ynghyd (clywcb, clywch). Dymunai ef ddyweyd fod pob peth wedi cael ei wneyd y tu allan i'r Llywodraeth a'r senedd i geisio penderfynu yr anghydweled iad ond yr oedd yr oil o'r ymdrechion hyny hyd yma. wedi troi allan yn fethiant ac yn awr, yn y flwyddyn neillduol hon, pan yr oedd y rhyfel drafferthus yn Neheadir Affricn. wedi cael ei dwyn i derfyniad, diolch i Arglwydd Kitchener, ac eraill, yr oedd efe yn gobeithio fod heddwch parhaus wadi ei gyrhaedd; a phan o fewn ychydig ddyddiau y byddai ganddynt frenin wedi ei gyhoeddi, a rhyddid yn cael ei gyhoeddi trwy yr holl dir; ac yn nghanol y cwbl, yr oedd yr anghydwelediad hwn yn sefyll yn unig. A oedd yn bossibl fad pob moddion wedi cael eu dyhysbyddu ? Ai nid oedd ya iawn iddo ef hawlio trwy y Ty gydym. deimlad yr holl wlad, a bod y Llywodraeth yn defnyddio pob moddion possibl i ddwyn y pleidiau at eu gilydd, ac i ddwyn yn ol filoedd i'w cartrefi, ac i ddarparu masnach sefydlog mewn cymmydogaeth, ac achosi i lwyddiant a heddwch wenu unwaith etto yn rhanbirth au- nedwydd Bethesda (cym.)? Mr. Gerald Balfour a ddywedoid mai naturiol oedd i'r aelod anrhydeddus godi y cwestiwn hwn i fyny, amgylchiadau pa un yr oeddynt fel yn gres- yuu o'u herwydd, pa belli bynag oadd ei syuiadau am y ddwy ochr. Beth oedd galla Bwrdd Mas- nach o dan Ddeddf Heddychu (Conciiiation Act)? Ar ddymuniad un ochr gallent appwyntio hedd- ychwr. Ar ddymuniad y ddwy ochr gallent ap- ¡ pwyntio cylafareddwr. Gallent, heb ddymaniad I oddi wrth yr uia ochr, wneyd ymchwiliad, a cheis- io dwyn y pleidiau at eu gilydd Fel yr oedd yr aelod aErhydeddus yn gwybod, nid oedd yr uu o'r pieidiau wedi ymofyn am gyfryngiad y bwrdd. Felly, yr oedd yn ammhossibl i'r bwrdd appwyntio heddychwr, na chylafareddwr. Gallasent anfen person i lawr i geisio dwyn y pardon at eu gilydd. Y rheswm pa bam na wnaed hyn osdd, am eu bod o'r farn nad ceid un gobaith i lwyddiant ddilsn y cyfryw weithred. Yr oedd byrddau cyhoeddus o'r tu aHan wedi gwneyd dau appeliad. Un oedd Cynghor Trefol Bethesda. a'r Hall Cynghor sir Gaernarfon. Yr oedd Bwrdd L!afur Swindon, hcfyd, wedi deisebu y Brenin ar y matsr. Yr oedd ef o'r farn y byddai y Ty yn cydsynio fod y Bwrdd Masnach wedi arfer dcethineb with bcidio ymyryd yn y ddadl hon, ao y bsasai ymyriad yn gwneyd mwy o ddrwg nag o ddaioni. Nid oedd ef yn credu y buasai Mr. William Jones ei hun yn barou yn ddoeth ymyryd mewn dadl pan yr oedd un, o Je41f, o'r partion yn anfoddlawn i byny. Mr. William J ,nes a bwyntLdd allan fod gan y bwrdd hawl i edrych i mewn i achos ydcadl. Yn chwanegol, yr oedd y gweithwyr wedi appelio at flasnorydd y toneddwr unrbydeddus yn 1897. Nid oedd ganddo ef hawl i ofyn, ond ar yr un pryd, a fyddai i'r boneddwr acrhydeddus roddi awgrym, os gwneid y fath appeSl, y byddai iddo gyfryngu ? Mr. Gerald Bilfour a ddywedodd, pe byddai i un ran o'r ddwy ochr ofyn am ymyriad, byddai yn rhaid i Fwrdd Masnach ystyried a osdd yn bos- sibl i'w dylanwad fod yn fuddiol. Yr oedd yr aelod anrhydeddus wedi cyfeirio at ei ragflaehydd ef—Mr. Ritchie-oud yr oedd profiad Mr. Ritchie yn rheawm chwanegol dros i'r bwrdd fod yn dra goohelgar ynghykh ymyryd eilwaith (olywch, ciyweh). Mr. Keir Hardy a ddywedodd ei fod yn gofidio 0 herwydd y sefyllfa yr oedd llywydd Bwrdd Masnach yn ei gymmeryd yn yr achos hwn. Gallai nad oedd yr un ochr wedi gofyn am wasaraeth y bwrdd. Hwyrach nad oedd y dynion wedi gwneyd hyn. Nid am nad ceddynt yn dymuno eyflwyno y ddadl i gylafareddiad, end am eu bod yn gwy- bod trwy brcfiad y byddai i Arglwydd Penrhyn wrthod y cynnygiad, am yr unig reswm fod y dynion wadi ei gynnyg. Gan fod petbau felly, a dymuniad y dynion am gylafareddiad yu wybydd- us, yr oedd cyfrifoldeb deublyg yn cael ei dadu ar y Bwrdd Masnach. Yr cedd gan y bwrdd hawl, pan nad oedd neb yn gofyn hyny, i wneyd ymchwiliad i achos yr anghydfod, ac i wneyd ad roddiad. Po buasai hyn wedi cael ei wneyd, ei gred ef oedd y buasai sefyllfa A'glwydd Penrhyn mor aasafadwy fel ag y buasai yn falch o gyesynio a gwahodd y Bwrdd Masnach i benderfynu y mater annedwydd hwn. Nid dyma yr nnig achoe cyffe'yb. Yr oedda^hos tebyg wedi digwydd yn eir York, lie y parhaodd y cweryl am 85iin o wythnosau. Yn yr achos hwnw yr oedd y meistr iaid, ar cl bod yn rhanog yn newisiad y cylafar- eddwyr, wedi gwrthod eu dyfarniad, ac yr oedd y glofeydd hyny etto yn sefyll yn segur. Yr oedd gweithredoedd Arglwydd Penrhyn a pherchcmg ion y gweithfeydd gld hyny y cyfeirid atynt, yn agor y cwestiwn ai nid gwell fyddai rhoddi awdur dod orfodol i gylafareddu i rhyw adran o'r Llyw. odraeth. Yn bersonol yr oedd ef yn erbyn cylaf- areddiad gorfodol. Ond os oedd meistriaid gwaith fel hyn yn para i wrthod cylafareddiad, byddai yn rhaid i adranau gorfodol gael eu pasio. Yr oedd yn beth rhyfedd fod Arglwydd Penrhyn, yr hwn nad oedd fymryn gwell dyn IJ&'r tair mil o ddynion oedd wedi eu cloi allan, nid yn nnig yn alluog i herio ei weithwyr ei hun, ond, hefyd, Lywodraeth gryfaf y blynyddoedd hyn, a deddf seneddol ar benig. Pan fyddai gan Arglwydd Penrhyn eisieu milwyr i amddiffyn ei chwarelau, yr oedd un aw- grymiad o'i ciddo yn ddigon i gael y mHwyr i lawr. Cnd pan yr oedd ymgais yn cael ei wneyd i bicrhau heddweh, yr oedd y Llywodraeth yn on- alluog i wneyd dim.
TY YR ARGLWYDDI.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
TY YR ARGLWYDDI. DYDD IAU, Awst Ihd -0) mmerodd yr Argl- wydd Ganghellydd ei eisteddle am chwarter wedi pedvar. Gofynodd larll Carrington pa faint o dynelli oedd y gludlong Drayton Orange, wedi ei chof restru i'w cario, pa gyfleusderau oedd arni i deithwyr, a pha nifer o gorphluoedd oedd ar ei mordaith olaf o Durban i borthladdoedd Awstr.ilia Dywedodd fod gwefrebau i'r newyddiaduron wedi cael eu derbyn yn y wlad hon yn hysbysu fed pump o farwolaetbau wedi cymmeryd lie ar ol i'r Hertr adael Durban, fod yna ddeg a phedvar ugain o achosion o'r er,teric a'r frech goch, a bod y Hong wedi cael ei gorlenwi. Iarll Hardwicke a ddywedodi fod y llestr wedi cael ei phasio i gario deugain o swyddog ion, a 2 090 e 'qwyr cyffredin. Yr oedd prif swyddngion tludlongau a'r prif swyddog meddygol yn uurban wedi ei phasio. Gwadai y ddau ei cod wedi ei gorlenwi, a dywedent nad oedd yna un achos o afiechyd heintus ar y bwrdd. Yr oedd yna 48 o swyddogion ar y bwrdd, a 1,935 o filwyr cyffredin. Nid oedd y Swyddfa, Ryfel yn meddu unrhyw hysbys rwydJ mewn perthynas i'r marwolaethau y cyfeirid atynt; ondaddtwodd y byddai i bob ymchwiliad gael ei wneyd i'r mater. Cyttnnodd en harglwyddi & gwelliaatau y Cyffredinwyr ar y Mesur Trwyddedol. Cododd y Ty am chwech o'r gloch.
TY Y CYFFREDIN.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
TY Y CYFFREDIN. DVDD IAU, Awst 7/cd:~Cymirerodd y LIef. arydd y gadair am ddau o'r gloch. India a Chostau y Fyddin, Cyflwynodd Mr J. Herbert Lewis ddeiseb oddi wrth Gymddthas Rhaglawiaeth Bombay a dinasyddion Bombay, yn galw sylw y senedd at y baich arianol trwm oedd yn cael ei roddi ar Drysorfa India mewn canlyn'ad i'r cyf. newidiad yn nghynllun y fyddiu Brydeinig, ac yn deiayf ar i'r swm o 780.000p. tuag at dalu i'r milwyr Prydeinig yn India beidio cael ei daflu ar y trethdalwyr yn India, a bod y dosbarthiad o'r costau milwrol rhwng Lloegr ac India yn cae! ei sefydlu ar egwyddorion teg a cbyfiawn (clywch, clywch). Etlioliad Deheu Beljast. Syr W. Walrond a gynnygiodd ar i writ.gael ei rhoddi allan er ethol aelod droa Ddeheu Belfast, yn lie y diweddar Mr. William Johnston. Y MESUR ADDYSG. Ymffurfiodd y Tý yn bwyllgor ar y Mesur Addysg. Ail agorwyd y ddadl ar adran 7. Pendertynwyd yn flaenorol nad oedd nifer llywiawdwyr yr en wad oedd yn perchenogi yr ysgji i fod yn fwy na phedwar; a chymmer- wyd o dan yatyriaeth yn awr y nifer o lyw- iawdwyr oedd i gael eu pennoli gan yr awdur- dodau lleol. Mr J. A. Pease a gynnygiodd nad oedd nifer y llywiawdwyr a gynnrychiolai yr awdurdodau lleol i fod yn fwy na chwech. Ei arocau ef ydoedd codi cyfartaledd y cynnrychioliad cyhoeddus i ddwy ran o dair. Rhoddodd Syr E. Grey a Syr W, Harcouri en cefnogaeth gref i'r gwelliant; a dadleuai y diweddaf y dylai yr awdurdodau addysgol lleol fod yn feistriaid hollol ar yr ysgolion. Siatadodd y prif weinidog yn erbyn y gwelliant. Mr. W. Jones a ddywedodd ei fed yn dymuno j cyfeirio at sylw o eiddo y prif wdaidog mewn peithynas i'r cynllun yn Ngbymru. I)yw-dai fod y tanysgrifiadau yno ya cynnorthwyo gryn lawer at gael y rheoiaeth. Nid felly yr oedd hi. Nid oedd yn dibynu ar danysgrifiadau o gwbl. Yroeddyrawdurdod etholedig gan y Cynghor Sirol a'r rheolaeth leol wedi cael ei sylfaenu ar sylfaen eang o ewyllys y bobl. Yr oedd un ran o bump yn cael eu hethol gan y Cynghor Sirol; yr oedd y gweddill yn ca^l eu hethol gan y cyrph lleol lleiaf. Fel yr oedd llwyddiant y cynllun yn Nghymru yn dibynu llwyddiant y cynllun yn Nghymru yn dibynu ar y ffaith eu bod yn meddu llywodraeth hollol gynnrychioliadol, ac asdurdo-d leol drwyadl. Ond, yn chwanegol at hyny, yr oedd y bon eddwr anrhydeddus wedi dal allan yn barhaus fod gallu y pwrs o dan ei gynllun ef yn un cryf, ac yr oedd efe (Mr. Jones) yn berffaith sicr y gallai gwaharddiad oedd yn cydfyned &'r gallu hwn tod yn un cryt, hefyd, ond nid oedd yu ddigon pell i'w cyfarfod hwV ar y cwestiwn hwnw. Yr oedd y prif weinidog wedi ymwneyd &'r ffaith, yn ngwyneb gallu y pwrs, y byddai yna reolaeth boilol dros y rhan fydol o'r addysg. Yr oedd efe yn methj deall ya lân pa lodd y gallai dau allan o chwech yn erbyn pedwar gael yr holl reolaeth dros a dysg fydol yr ysgol (clywch, clywch). Pa fodd yr oedd yn bossibl i'r ddau hyn. a chaniatau fod ganddynt yr awdurdod o waharddiad wrth eu cefnau—i'r gwaharddiad hwnw fod yn ddigcn I cryf i orchfygi y padwar ya etholiad yr holl athrawon? Credai ef i'r boneddwr anrbyd eddus awgrymu fwy nag unwaith ei fod ef ya bwriadu, pan yn dadleu adran 8, i ddangos iddynt hwy y byddai i'r pedwar hyn, nid unig ethol yr athrawon, ond y byddai yna fwy o ystwythder tuag ab gyfarfod a chwynion yr Ymneillduwyr. Yr oedd yn oeth hollol am- mhossibl i'r is athraw Ymneillduol i gael y siawns o'i ethol yn athraw. Gobe thial y byddai i'r TJ fanteisio ar gynllun y boneddwr anrhydeddus, un ai y noson hono neu cyn y gohiriad dros y gwyliau. Trwy hyny gallai rwyddhau y ddadl. Gofynai i'r prif weinidog, ai ni allai helaethu yr elfen gynnrychioliadol, er i'r mesur weithio yn fwy eemwyth (clywcb, clywch). Cymmerwyd rhan yn y ddadl ar ol hyny gan Mr. Ashton, Mr. Middlemore, Mr. Randies, Mr. Lambton, ac eraill. Mr. D. Lloyd George a obeithui y byddai i gefnogwyr y mesur-yn mysg y rhai yr oedd yn cynnwys Arglwydd Hugh Cecil—(chwerth in) gymmeryd sylw o'r araeth arwyddocaol oedd newydd gael ei thraddodi o'u hochr hwy i'r T £ (cym. yr Wrthblaid). Yr oedd efe yn eyna braidd wrth glywed y chwerthin, yn ngwyneb yr awgrymiad a wnaed fod penaeth- laid yr enwadau Protestanaidd yn rhoddi eu penau ynghyd, ac yn ceisio cyttuno ar fath o grynodeb o addysg grefyddol. Yn Nhrefedigaeth Victoria, yr oedd penaeth- laid y gwabanol enwadau wedi rhoddi yr awgrym hwnw mewu ymarferiad — yr oil, gyda r eithriad o'r Pabyddion a'r Iuddewon. Yr oedd yr un peth wedi digwydd mewn tref edigaethau eraill; mewn gwirionedd, dyma yr unig ran o'i ymherodraeth lie yr oetid Eglwys Loegr yn gwrthod cymdeithasu fig enwadau Protestanaidd eraill yn y mater (cym.). Dadleuai Mr. Lambton, yr hwn" oedd yn Eglwyswr, am gymmod. Yr oedd Mr. Randies, yr hwn oedd yn Ymneilldiiwr, yn meddwl fod yr hyn a gynnygiai yn llawn ddigon d80 i'w gyd Ymneillduwyr (chwerthin). Dy- wedid mai adran ydoedd hon i gyfyngu y rheoiaeth glerigol — adran oedd yn cael ei chefnogi gan holl gymdoithasau esgobaethol y wlad (chwerthin). Dadleuai ef, yn gymmaint a bod y Llywodraeth yn cyfufod a'r treuliau, y dylai y wladwriaeth gael y rheoiaeth. Nid oedd Ymneillduwyr yn gofyn un ffafr. Gellid gosod Ymneilldiiwr ar y fainge, gailai gael ei wneyd yn Arglwydd Farnwr yr Appel, ond nid oedd yn berson cymmhwys a phriodol i ymo ddiried llywodraeth ysgoi fechan mewn peiitref iddo. Yroedd yna gydraddoldeb yn y llys, ond yr oedd meddwl am gael cydraddoldeb yn yr ysgol yn achcsi dychryn trwy Greenwich I (chtverthin). Yr oedd yn ffaith mai y lleoedd hyny yr oedd addysg anenwadol yn ffynll- lleoedd fel New Zealand ac Ontario—oedd yn I cynnyrchu y gwladgarwyr puraf, tra yr oedd ¡ yr Iwerddon a Malta yn cynnyrchu cefnogwyr i'r BAriaid. Yr oeddym yn siarad am welia ein haddysg,5er i ni allu myned ochr yn ochr a'r Yswisdir, yr Ahnaen, a'r Unol Dahethau. Ni ddylai gwlad fawr fel hon siarad am fyned ochr yn ochr, ond ar'y blaen i wledydd eraill. Er mwyn dysgu athrawiaethau i blant, y rhai nis gallent en deall, yr oeddym yn nghanol Sill hanhawsderau, a'r creigiau a'n hamgylchent, yn cynnyg gosod y caplan ar y bont (chwerth- in a chym.). Yr oedd yn gynnygiad gwall get. Boed i ni, mewn ysbryd busnes, glirio y parsoniaid oddi ar y ffordd neu, os oedd gan- ddynt eisieu ein cynaorthwyo i arbed y llong, boed iddynt dynu eu cotiau, a gweithio y pwmp.' fel pobl eraill, ar y bwrdd (cym.) Ymranodd y pwyllgor ar welliant Mr. Pease, pan y plei leisiodd Dros y gwelliant 107 Yn erbyn 228 Mwyairif yn erbyn 12l Yna cynnygiodd y Dadleuydd Cyffredinol fod y gweddiii o welliant Mr. Balfour yu cael ei adael allan, a bod y geiriau 1 fel yr ocdd yn cael ei ddarparu trwy y gyfraith hon,' yn cael eu gosod i mswn. Dywedai mai effaith y cyn- nygiad hwn fyddai gadael yn agored y peiriannwaith trwy ba un yr oedd y liywiawd. wyr poblogaidd etholedig i gael eu dewis. Cyttunwyd ar y gwelliant. Ymranwydar'y penderfyniad fod gweUiant Mr. Balfour, fel yr oedd wedi cael ei ddiwygio, yn ciel ei basio, pan y pleidtetsiod 1 Dros y gwelliant 230 Yn erbyn I., 89 Mwvafrif dros ]4t Cyttunwyd & gwelliant a gynnygiwyd gan Syr F. S. Powell, yn darparu i nifer o ysgolion fod o dan lywodraeth un eorph o lywiawdwyr. Wedi hyny gohiriwyd yr eisteddiad. YR EISTEDDIAD HWYROL Ail ymgyfarfyddodd y Ty am naw o'r gloch. Ar y cwestiwn fod adran 7, fel yr oedd wedi cael ei diwygio, yn sefyll ya rhan o'r mesur, dywedodd Mr. Herbert Lewis fod yr adran hon, mewn rhai ystyron, hwyrach, yr un bwysicaf o'r holl adranau yn y mesur. Yr oedd efe yn meddwl mai yr hyu a darawai unrhyw fyfyriwr o ddeddfwriaeth gymmharol ydoedd, ei nod- wedd afreolaidd anghjffredin. Nid oedd efe yn credu y buasai yn bossibl mewn unrhyw ddeddfwIiaeth yn y byd gario adran o'r nod- wedd hon, yn cynnwys darpar aethau o her thynas i reolaeth ysgolion eltenol eyhoeddlis or nodwedd oeddynt hwy yn ei gael yn yr adran oedd o dan ystyriaeth. Yr o d 1 efe yn tybio yn awr, wedi i'r Llywodraeth udiddymu byrdd- au ysgolion, y byddent yn hynod o ddiolehgar iddynt am rywbeth ar ffuif rheolaeth gyhoedd- us, hyd yn oed mewn ysgolion oedd yn cael eu liywodraethu gan awdurdodau cyhoeddus. Mewn cyssylltiad a'r ysgolion cyhoeddus hyn yr oedd y Llywodraeth wedi cael ei symmud, mor bell ag yr oedd yn bossibl, oddi wrth y el L trethdalwyr. Yn Ile etholiad rhvdd o lywodr. aethwyr i ysgolion oedd yn cael eu darparu gan yr awdurdod gyhoeddus, yr oedd ganddynt, yn ymarferol, gynliuu o na ,yddvgaeth. I hyny y deuai. Byddai i aelod y cynghor sirol dros y rhanbarth feddu nawddogaeth dros y rhanbarth neillduol hwnw. Yr awdurdod addysgol leol fyddai yn gwneyd y pennodiad; ond etto, byddai aelod lleol yr awdurdod addysgol hwnw, yn ymarferol, yn meddu pob gallu. Yn y modd yma, wedi symmud y rheoiaeth oedd yn cael ei ddarparu gan yr awduidod gyhoeddus oddi wrth y bob1, yr oeddynt yn gosod y gwaith o enwi y ccrph o lywiawdwyr yn nwylaw un person. 1 r oedd efe yn meddwl, mewn am. gylchiadau o'r fath hwnw, fod manteision yr yggol yn rhwym o ddioddef. Gallasai y Llyw- odiaeth fabwysiadu y cynllun yn Nghymru; hyny yw, fod y cynghor siiol yn ethol tuag un ran o bump o aelodau yr awdurdod addysgol, a bod yr aelodau lleol i gael eu hethol gan yr awdurdodau lleol. Amcan gwirioneddol yr adran hon ydoedd ffafrio cynilan enwadol. Dyna pa ham yr oedd y cyfartaledd anghyff- redin hwn o gynn r ychioIia I a t h rethiad wedi cael ei ddwyn yn mlaen. Yr oedd y Llywodr. aeth yn dwyn naw ran o ddeg coat addysg, ac yn cael un ran o dair o'r cynnrychioliad. Yr oedd efe ac eraill oedd yn meddwl yr un fath ag ef yn beiffaith foddlawn i roddi cynnrych- ioliad yn ol cyfartaledd y tanysgrifiad. Dy* wedwyd wrthynt lawer gwaith drosodd fod rheoiaeth boblogaidd i gael ei estyn trwy y mesur hwn. Yr oil a ddywedai ef yn ngwyneb hyny ydoedd, nad oedd yr ymadrodd yn ei berthynas a'r ysgolion gwirfoddol yn ddim list na cbamddefny ddio yr iaith Saesneg (clywch, clywch). -Mewn perthynas i gwynon rhan- barthau sengl o'r wlad, nid oedd yr awgrym a wnaed gan y prifweinidog; hyny yw, lIi. osogiad yr ysgolion, yn un a wnai gymmerad- wyo ei hun i synwyr cyffredin y wlad, ac yn un a fyddai o fantais addysgol i'r naill na'r liall. Ofnai ef mai canlyniad y mesur fyddai chwanegu yn ddirfawr y gelyniaeth enwadol yn y wlad. Os oedd yn angenrheidiol gwario mwy o arian ar yegolioa yr Eglwys, paham Lai allai yr Eglwys daflu ei hun yn rhydd ar drugaredd y bobl oedd hi yn ei gynnrychioli? Ei wrth* wynebiad mawr ef i'r adran ydoedd, ei bod yn un mor neillduol o anghyfiawn & Chymru. Nid oedd y Llywodraeth wedi cael unrhyw orchym- yn, mor bell ag yr oedd a wnelo Cymru a hyny, ar unrhyw gwestiwn o gwbl; ac yr oedd can- lyniadaa yr etholiadau yn yr aaiser oedd wedi myned heibio yn dangos, mewn mater o'r fath yma, nad oedd ond peth teg a ehyfiawn iddynt roddi triniaeth wahanol i Gymru yn yr ystyr hon. Yna cynnygiodd fod yr adian bon yn cael ei gadael allan o'r mesur. Siaradodd Mr. Cripps yn ffafi y mesur. Mr. Osmond Williams, fel Eglwyswr, a ddy. wedodd ei fod yn rhoddi cefnogaeth gynnes i hawl yr Ymneillduwyr. Ofnai na byddai i'r mesur wneyd dim ond cefnogi teimlad enwadol chwerw, ac y byddai i effeithiolrwydd mewn addysg gael ei aberthu i ddallbieidiaeth gref- yddol. Ar ol dadl faith cafodd yr adran ei chario trwy 220 o blcidleisiau yn erbyn 9S. Cododd y Ty am ddau funyd cyn un.
TY YR ARGLWTDDI.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
TY YR ARGLWTDDI. DYDD GWENER, A wst 8fe t.- Uymmerodd yr Arglwydd Ganghellydd ei eisteddle am chwar- ter wedi pedwar. Pasiodd yr Appropriation Bill; a derbyniodd n'.fer liosog o fesurau y cyi'syniad brenhinol Mewn attebiad i Arglwyd t Killanin ac larll Neath, dywedoid Iarll Onslow fod y cwestiwn o sefydlu gwa-anaeth Prydeinig drosy Werydd yn derbyn sylw y Llywodraeth Os ciwsai y cyfryw linell ei sefydiu, byddai yn angenrheid- iol dyfod i'r senedd am arian; ac yni, byddai i'r lull finylion gael eu gwneyd yn hysbys. el Gohiriodd y ty am hann r awr wedi chwech, hyd yr 16eg o Hydref.
TY Y CYFFREDIN.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
TY Y CYFFREDIN. DYDD GWENER, Awst 8fed.— Cymmerodd y Llefarydd y gadair ganol dydd. Ymchwiliad i ddygiad y rhyftl yn mlaen Rhoddodd Mr. Balfour, mewn attebiad i Syr C. Dilke, enwau y rhan fwyaf o ae odau y Ddirprwyaeth Frenhinol a bennodwyd i wneyd ymchwiliad i ddygiad y rhyfel yn mlaen. Appropriation B-ll.' Pan gynnygiwyd fod y mesur uchod yn cael ei ddarl en v drydedd waith, cymmerodd dadl ie ar amrywio1 gwestiynau sc ar y ciwedd cyttunwyd ar y try -ydd darlleniad. Y Gohiriad. Yna cynnygiodd Mr Balfour, fod y ty, ar ei waith yn codi y diwrnod hwnw, yn cael ei ohirio hyd Hydref 16eg. Dywedodd y byddai iddo, pan ail ymgyfarfyddai y Tv, ofyn am ragorf reintiau neillduol i fusnes v Llywodraeth —ewrs oe id wedi cael ei gymmeiyi bob amser pin gyfarfyddai y Ty yn yr Hyuref Trefnid i ymwneyd a rhai mesurau o nodwe id wiinydd- iadol, ac, wrth gwrs, byddai yn rhaid iddynt basio mesur Dwfr LInn hiin: ond yr unig gyn- nygiad dcddfwrol ruawr heb law y Mesur Dwfr ydoe id y Mesur Addysg. Am h tuner awr wedi pump cyttunwyd ar y penderfyniad, a gohiriwyd y Ty nyd Hydref ISeg.
Y MESUR ADDYSG.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y MESUR ADDYSG. YN Nbý y CyQVedin no3 Lun gofynodd Mr. Herbeit Roberts i Brif Arglwydd y Trysorlys, wrth we'e I fod niter o ys^c-lioa gwirfoddo! mewn dylsd yn Lioegr a Chymru, a wnai ef ddyweyd pa un a osdd yaa f Ariad i ystyried y diffygion yn ngbyfrifoa yr ysgolion hyn fel ayledion oedd i gael eu trosglwyddo o dan ddarpariaeth yn attodlea y Mesur Addysg i awdurdodau addysg Ileel; oa feliy, a fydd i'r cyfryw ddyledion gael eu cyfrif i awdurdodau addysg leal o'r 30aiu o Fehefia y flwyddyn hoa, neu o'c dydd pennodelig. neuddyddial diweddar- ach, i gaei ei bennodi gaa y Bwrdd Addysg, o dan adran 20 o'r Mesur Addysg? Mr. Balfour.—Ni chynnygir trwy y msaur i'r ysgolion gwirfoddol gael eu trosglwyddo i awdar. dodaij addyssg lleo). Y mae ysgolion y bwrdd, ar y 11aw arall, yn cael cu trosglwyddo ac felly yr ysgolion hyny, ac nid ysgolion gwirfoddol, sydd yn cael ymwneyd a hwy yn yr attodlea y cyfeir. iwyd eti. Bydd yrawdurdod addysg leol yn gyfrif >1 am go*t cadwraeth yr ysgolion gwirfoddol ar cl y diwrnod psnuodedig, ond ni bydd a. wnel- nnt hwy ag unrhyw ddiffyg yn cghyfrifon yr ysgolion hyny & fydd yn bodoli y diwrnod hwnw, nag ag unrhyw gÔ5t y byddo y llywiawdwyr wedi myned iddi cyn y diwrnod hwaw.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Trdca. ysgubwyr simneiau Llundain, y rhai a waherddir i guro wrth y drysau, er mwyn cael gwaith, ac o waeddi chwaith yn yr heolydd, i gael ardcangosiad yo Travalgar Sq iare yn fuan, er rhoddi dadganiad i'w dlyuion.