Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
7 erthygl ar y dudalen hon
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
LLANBRADACH.—Mae y Parch J. C. Jones, Pontyclun, wedi derbyn galwad daer ac unfrydol oddiwrth yr eglwys hon. Mae Mr Jones wedi bod yn hynod Iwyddianus fel gweinidog yn Mhontyclun. Cynyddodd yr eglwys yn ddirfawr yn ystod ei weinidogaeth. Mae yr eglwys yn awyddus iawn am ei gadw. Os mai symud a wna, bydd yr eglwys yn Llan- bradach yn sicr o fanteisio ar ei ddyfodiad i'w PONTREFRACT, YORKS. Derbyniodd Mr W. S. Jones, B.A., Benllech, Mon, alwad unfrydol i fyned i weinidogaethu i eglwys Annibynol yn y lie itchod. Sefydlwyd yr eglwys yn Pontrefract tua dan gaut a haner oftynydd- oedd yn ol. Bn Mr Jones yn aelod yn y Tabernacl, Lerpwl, a dechreuodd bregetlm yn Great Mersey-street. Ar ol bod yn efrydydd yn Ysgol Raraadegol Menai Bridge, graddiodd yn Mhrifathrofa Dublin, ac yna detlv i Goleg Bradford, a gwnaeth waith da yn ystod ei arosiad yn Bradford fel arolygydd y sefydliad cenadol sydd yn nglyn a'r Coleg. Bydd yn dechreu ei yrfa yn Pontrefract yn mis Medi.
Family Notices
Hysbysiadau Teulu
Dyfynnu
Rhannu
GENI, PRIODI, A MARW. MABWOLAETHAO, JONES —Dydd iau, Mawrth 21ain, rhoddwyd mewn bedd, yn Myuwent Horeb, sir Benfro, John Jones, mab John Jones, Valen, Lawrenny, sir Benfro, yn 43 oed. Symudodd y teulu tua 26 mlynedd yn ol, o gerllaw Pont-hirwen, sir Aberteifi, i sir Benfro. Gorfodwyd iddynt ymadael oddiyno, oherwydd uad oedd argoel arnynt i droi yn Eglwyswyr, a gadael capel Bethesda. Yr oedd ei feistres yn Eglwyswraig aelog, ac am gael pawb ar yr ystad i fod yn Eglwys- wyr, a gorfod i John Jones, oedd y pryd hyny yn game,keeper yn y palas, i gefnu a'r ardal, a myned i ganol Haeson Penfro, ger Lawrenny. Y maent fel teulu wedi cadw at eu Henwad hyd yn awr. Y mae hiraeth mawr ar ei ol, er nad oedd ei lais i'w glywed yn uchel, eto, yr oedd ei rodiad difwlch yn werth ei efelychu. Bydded i'r tad oedranus, a'r perthynasau oil, i dynu eu dyddanwch or Person all gydym- deimlo itheulu dyn yn mhob tywydd garw, a pheidio wylo yn ormodol. Cysga John yn dawel hyd y boreu y bydd udgorn yn galw y plant arhof1- Gregory Kean. HODGES.—Dydd Mawrth, Mawrth 5ed, claddwyd gweddillion y chwaer anwyl Mrs Hannah Hodges, priod Mr Thomas Hodges, 8, Lansdowne-road, Canton, Caerdydd, yn Mynwenty Christian Temple, Amauford, sir Gaerfyrddin. Gwanaidd fu ei hiechyd am rai blynyddau. Er hyny, yr oedd yn dal i fyny ac yn cyflawni ei dyledswyddau teuluaidd yn rhyfeddol, ac yn ffyddlon neillduol i'r capel a phob gwasanaeth crefyddol. Yr oedd bob amser yn fwynaidd ei hysbryd, ac yn hyderus ei meddwl. Yn ystod y saith mis diweddaf, dyoddefodd gystudd caled iawn. yr hwn yn y diwedd a gymerodd ei bywyd ymaith. Hunodd yn yr lesu yn gynar boreu Gwener, Mawrth laf, yn 53 mlwydd oed. Ni welsom neb erioedyt fwy tawel a boddlawn mewn cystudd. Dywedai o'r diwrnod cyntaf y methodd ei bod yn berffaith foddlawn i ewyllys ei Thad Nefol. Der- byniwyd hi yn aelod crefyddol gan y diweddar seraph-bregethwr, y Parch J. Davies, Cwmaman a Cross Inn (Amanfordyn awr). Ar gyfrif galwedig- aeth ei hanwyl briod, yr hwn Bydd yh yriedydd ar Linell y Great Western, bu hyny yn foddion iddynt i wneyd eu cartref am dymhor mewn gwahanol fanau, sof Llanelli, Hundain, Tondu, Aberdar, ae yn olaf Caerdydd. Tystiolaeth uchel ddygir i'r teulu am eu sol a'u ffyddlondeb crefyddol o'r holl leoedd hyn, ac mae enw yr ymadawedig yn yr eglwysi y bu yn aelod yn aros yn berarogl. Teimlir hiraeth am dani, a cholled ar ei hol, yn eglwys Severn-road, Caerdydd. Er fod yr angkdd yn cychwyn yn gynar yn y boreu i gyfarfod y tron, yr oedd nifer lluosog er hyny wedi dyfod yn nghyd. Gweinyddid fel bearers gan bedwar o gyd-ddiacon-
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
pHYAReHEfiS^B Igoldenretdrns I OF 'i:: 111 Darlun 0 Pecyn Wns. ARCHER'S GOLDEN RETURNS. PERFFEITHRWYDD MYGLYS PIB.
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
^„ Mae'r Pills hyn yn gwneyd Daioni bob tro. -+- Wrth brynu, gofynwch 'HUGHES'S BLOOD PItL Mynwch weled y T ade Mark Lltlii Calon. fel hyn bob Box. Heb pHft hyn- nid ydynt yn bur. GWRTHODWCH BOB PETH ARALL. q Ar werth gan bob Chemist a Stores am Is lic a 2s 9c., 4s 6c, neu danfoner eu gwerth mewn P. 0. new stamps at Jacob Hughes, M.P.S.L.D.S., Manufacturing Chemist Penarth, Cardiff
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
BRYSIWCH I geiso potelaid gan y Fferyllydd nesaf atoch, cyn i'r Anwyd fyned yn waeth. Cofiwch Cough HUGH Il3^d.aHj9y hotel. 'AJl j DAYIES'S COUGH MIXTURE. At Beswch. DAVIES'S COUGH MIXTURE. ^nwv(J DAVIES'P COUGH MIXTURE. DAVIES'S COUGH MIXTURE. DAVIES'S COUGH MIXTURE. _pFOIlCnitlS, DAVIES'S COUGH MIXTURE. Pas, Crygni, DAVIES'S COUGH MIXTURE. Influenza. DAVIES'S COUGH MIXTURE. Bronchitis, DAVIES'S COUGH MIXTURE. Pas, Crygni, DAVIES'S COUGH MIXTURE. Influenza. MAE PO EN ANXYODDEPOL YN FY M H E N, ACBTR WY.P YN TEIMLO MOR GLAF A BILCOUR FEL NAD WYE YN GWYBOD BETH I'W W'N K VI).' Mae miloedd Wyr a Gwragedd, llanciau a Genethod o bob oedran yn cael eu poeni yr un fatli, nes gwneyd bywyd yn bur feichus. Pe bai pawb yn gwybod mor eHeithioI yw HUGHES'S BLOOD PILLS Nid oedent nn foment eu cymeryd hwynt. Mae eifeitljiau Lan a iaohad'rr 'Vn wyrthioL Maent yn rhod,li esmwythad DOLUR PEN BILIOUSNESS DIFFYG TRAUL ISELDER YSBRYD GWYNT PILES OLEFYD YR ARENAU AFU DRWG RHEUMATICS CORFFRWYMEDD POEN CEFN SCURVY CROENDARDDIAD ECZEMA p,ae'n°d Swreiddyn y drvv^ yn y Gwaed, a bod yn lliaid Puro j («waed cyn y gelhr cael iachad gwirionertdol. At Buro y Gwaed, Nid oes dim cyffelyb iddynt. Maent yn cael effaith unio ngyrcliol a Uwyddianus ar yr hollgyfansoddiad.
— Y BOBL YN TYSTIO.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
— Y BOBL YN TYSTIO. (DYFYNIAD O'R LLYTHY.RAU.) Syr, -Nis gallaf lefaru yn rnv uchel mn H-UG-EIES'S BFOGD PILLS. Hwy a'm gwellasanto ymosodiad llym iawn o Ddolur Pen, Hiliuusness, a ehyflwr bndr y cylla, a hyny mewn byr amser. Wigau. C. JAMKS. byr, Yr ydwyjf wedi bod mewn cyfiwr gwan iawn am nsoecld lawer—poenau enbydus yn fv Arenau ar Gefn, gyda Rheumatics. Poen yn v Pen Gwynt, Diffyg Traul, a Chylla drwg. Yr oedd hyn' v!. h«ii'a e.k ac \0,^1 gaP. VV aed Drwg yn gwenwyno yi holl goi ff. Mi gefais wellhad l)uan drwv f'v- meryd HUGHES'S BLOOD PILLS. y WM. JONKS. Pembroke-terrace, Pontypool. Syr,-Yr wyf wedi bod yn ddyoddefydd mawr gan boenau erchyll yn fy Mhen a'm Cefn, Gwynt a i r Jufr> r.VUr L.. ? fy an°? 1 S.vmeryd HUGHES'S BLOOD I ILLS, ac fe wnaethant cldaioni rhyfedd i mi. Yr wyf yn awr yn holliach. Elms street, Ferhdale. SARAU PHILLIPS.
Family Notices
Hysbysiadau Teulu
Dyfynnu
Rhannu
iaid ei phriod. Oarlleuwyd a gweddiwyd yn y ty cyn cychwyn gan ei gweinidog, y Parch J. Henry, yr hwn oedd yn analluog i fyned i Amanford oher- wydd sefyllfa ei iechyd. Aeth nifer o froiyr a chwiorydd perthynol i eglwys Severn-road yr holl ffordd hyd fan ei btdd. Gwasanaethwyd yn nghapel y Christian Temple gan y gweinidog, y Parch I. C. Evans, yn dyner a phwrpasol iawn, ac ar lan y bedd gweddiodd Mr John Morgan. Yr oedd y dorf yn lluosog erbyn hyn. Nos Sabbath, Mawrth 24ain, traddododd y Parch J. Henry y bregeth angladdol, yr hon oedd yn sylfsenedig ar Dat. xiv. 13. Nawdd y Nef fyddo dros ei phriod a'r plant yn en profedig- aetfi lem a'u hiraeth dwfn, yn nghyda'i chwaer, a'i mam oedranus, yr hon gafodd nerth i fod gyda hi trwy dymhor ei chystudd. Er fod y plant wedi tyfu i fyny, a rhai uhouynt wedi ymsefydlu yu y byd, eto teimlant eu bod wedi cael colled anmhrisiadwy yn marwolaeth eu mam ddoeth a duwiol,—Hiraethus. MATTHEWS.—Nos Sul y Blodau, Mawrth 24ain, yn 24 mlwydd oed, Miss Edith Maud Matthews, merch ieuengaf Mr a Mrs Edward Matthews, 83, Brecon- road, Merthyr Tydfil. Yn ei marwolaeth hi collodd Merthyr un o'r cymeriadau prydferthaf. Bu yn glaf am tua dwy flynedd, ac yn rhodio glaa yr afon am fisoedd yn siriol ei gwedd, yn llou ei hysbryd, yn Ilawen mewn gobaith, yn ddyoddefgar iawn mewn cystudd blin, yn ddirwgnach ac yn liawn 0 ffydd yn ei Gwaredwr, yr Hwn a garai a'i holl galon. Er yn ieuanc, yr oedd ei hysbryd wedi ei drwytho ag eg- wyddorion crefydd, ymhyfrydai yn astudiaeth o Air Duw, yr hwn oedd yn llusern i'w thraed, ac yn llew- yrch i'w llwybrau Bu am flynyddau yn aelod ffyddlon 0 eglwys Ynysgau, a chyflawnaiv swydd o Organyddes hyd y pallodd ei nerth. Dyheai am gyfle i ddychwelyd i gymeryd rhan yn ngwasanaeth y cysegr ni chafodd ei dymuuiad yn ol ffurf y byd hwn, oud cymerwyd hi i fyny i gymanfa a chynull- eidfa y rhai cyntafanedig; i'r ty nid o waith llaw, tragywyddol yn y nefoedd. Yr oedd hi o ysbryd naturiol lednais, ond yr oedd gras Duw wedi ei lefeinio, fel yr oedd hi yn gymeriad hardd dros, ben, yn foneddigaidd, ac yn hawdd ei thrin. Cariodcl ddylanwad dyrchafol ar ieuenctyd ei hadnabyddiaeth, ac erys ei hesiampl dda am hir amser ar ei hol. Gweddiai am gael ollyngdod o'r babell fran, a bu am ddyddiau yn dysgwyl am fad y Brenin i ddyfod i'w chario dros yr afon gyda hunanfeddiant perffaith. Ni frysia yr hwn a gredo.' Pan ddaeth y newydd o'i symudiad, daeth tun o hiraeth dros ei chydnabod, ond y mae prudd-der oherwydd ei symudiad yn ddi- angenrhaid, oblegid gwyddys yn dda i ba le yr aeth. Cymerodd claddedigaeth y rhan farwol le y dydd Ian canlynol, pryd y cafwyd cyuhebrwng cyhoeddus lluosog. Blaenorid y corff gan Uymdeithas y Cym- reigyddion, o ba un yr oedd yn aeiod, a Uhôr Ynys- gau, o dan arweiniad Mr Edward Lumley. Canwyd emynau oedd wedi cael eu hargraffu yn arbenig i r amgylchiad, or ty i'r Gladdfa liyhoeddus yn Nghefn- coedycymer. Ar ol cyrhaedd yno, darllenwyd rhanau o'r Ysgrythyr, a siaradwyd gan ei gweinidog, y Parch R. T. Williams (yn llaw yr hwn yr oedd yr holl drefniadau), a'r Parch D. G. Evans (MC), a gweddiodd y Parch Jacob Jones, Bethesda. Ar lan y bedd gweddiodd y Parch John Thomas, Soar, a siaradodd y Parch William Davies (M.C ), yr hwn a roddodd emyn hefyd allan i'w ganu. Yr oedd yr ymadawedig yn meddiauu talentau uchel iawn fel cerddores, nid yn unig yr oedd yn cbwareuyddes ardderchog ar yr offerynau, ond rhoddai addewidion sicr o wneyd safle iddi ei hun fel cyfansoddydd hefyd, pe bai wedi cael byw. Yr oedd yr hyn oedd hi wedi gyfansoddi yn barod yn rhoddi pob hyder y dringasai hi yn uchel yn y cyfeinad hwn. Bu yn Uwyddianus i enill gwobr yn nghystadleuaeth Cymanfa Ganu Annibynwyr Merthyr a'r Cyleh. Cysured yr Arglwydd y teulu galarus yn eu hiraeth o golli merch a chwaer mor hynaws a rhadlon, a llanwed Duw y bylchau a wneir yn ei Eglwys yn y dyddiau hyn.