Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
3 erthygl ar y dudalen hon
HAFOD, PONTYPRIDD.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
HAFOD, PONTYPRIDD. Marwolaeth a Chladdedigaeth Mrs Williams. -Yr oedd y wraig rinweddol hon yn briod i'r gweinidog da a'r brawd annwyl-y Parch J. Williams, Hafod. Bu farw yn dra sydyn bore Sal, Medi 26ain. Yr oedd yn un o'r cymeriadau gloewaf a chyfoethocaf a adwaenom erioed-y cyfryw gymeriad ag sydd yn cyfoethogi cym- deithas, ac y mae pob cylch y troai ynddo, nid yn unig yn wacach, ond yn dlotach hefyd. Meddai ar natur siriol, hawddgar a charedig- yn gyfryw nes gwneud y neb a ymwelai a'r teulu yn gartrefol ar unwaith. Llanwodd yr enw mam i'w y my Ion drwy ei gofal, a'i darbod- aeth, a'i haddysg, a'i besiampl dyrchafol. Ni phetruswn ddweyd y bydd hi, er wedi marw, yn llefaru eto yn eu merched. Profodd ei hun yn wraig dda i'w phriod. Sonnir am ymgeledd gymwys os bu neb felly, yr oedd hi. Bu yn ymgeleddu ei phriod gyda gofal a thynerwch mawr at hyd ei bywyd priodasol. Oyflawnodd yr adnod honno i'r dim—• Hi a gyfyd liw nos, ac a rydd fwyd i'w thylwyth, a dogn i'w llanc esau.' Y fath gaffaeliad i weicidog yw cael ymryddhau oddiwrth drafferthion a gofalon teuluaidd, a gwybod i sicrwydd fod popeth yn cael ei ddwyn ymlaen yn y modd goreu posibl. Bu hyn yn help i'n brawd i roddi y gwasanaeth mawr ag y mae wedi ei roddi i'r cylch, a'r Cyfundeb a'r En wad. Ni chyfyngodd hi ei hun i'w thoulu yn unig, ond gwasanaethodd yr eglwys a'r lie hefyd. Yr oedd o blaid pob mudiad da, ac yn annwyl iawn gan chwiorydd yr eglwya, a chariai ei hawgrym llednais, tyner, ddylanwad mawr gyda phob trefniant yn eu plith. Profodd ei hun yn athrawes fedrus. Yr oedd wedi darllen llawer, ac yn gwybod ei Beibl yn dda, a dygodd yr oil i ddylanwadu'n ddyrchafol ar y dosbarth. Pwy fedr ddweyd faint fu ei gwasanaeth yn y cyfeiriad hwn ar hyd y blynyddau. Bu to ar ol to o ferched ieuainc o dan ei haddysg, ac y mae y rhai hyn wedi ffurfio teulnoedd iddynt eu hunain, a bydd ei dylanwad hi yn byw drwyddynt ar aelwyd- ydd yn yr oes nesaf. Bu yn gryfder ac yn gymorth mawr i'w phriod yn ei waith fel gweinidog. Pregethai ef egwyddorion gwynion Mab Daw ar y Sul, a throai hithau hwynt yn actau ac yn bregethau yn ei bywyd ar yr wythnos. Nid gormod yw dweyd na byddai ein brawd, yr eglwys, na'r lie y peth ydynt pe hebddi Ond wele daeth y diwedd! a gadaw- odd briod a dwy ferch a'u priod i alaru eu colled ar ei hoi. Cymerodd yr angladd le dydd Iau, Medi SOain. Gwasanaethwyd yn y ty gan y Parchn J. Gwrhyd Lewis, Tonyrefail, a G. Penrith Thomas, Ferndale. Yn y capel dar- llenwyd rhan o'r Ysgrythyr gan y Parch J. Dyfnallt Owen, Caerfyrddin, a gweddiwyd gan y Parch J. T. Rees, Alltwen. Siaradwyd gan y Parchn J. C. Evans, Brynmenyn; T. G. Jenkyn, Llwynypia; J. Rees, Cwmllynfell; ac Arglwydd Pontypridd. Dygwyd tystiolaeth uchel i fywyd glin a chymeriad pur ein chwaer. Terfynwyd trwy weddi gan y Parch J Williams, Llanon. Ar ol y gwasanaeth ffurfiwyd yn orymdaith i fyned i gladdfa gyhoeddus Glantaf. Gwasan-, aethwyd wrth y bedd gan y Parchn T. T. Jones, Maendy, a T. Haghes, Caerdydd. Yr oedd y dyrfa luosog ddaeth yr holl ffordd yn brawf nad rhywun cyffredin oedd yn cael ei chladdu. Yr oedd yr holl drefniadau yn llaw y Parch E. C. Davies, Ynyshir. Heblaw a ennwyd, gwelsom y brodyr canlynol yn bresennolY Parchn Rees, Eglwysnewydd Jones, Bodringallt; Owen ac Evans, Pont- ypridd Davies, B.A., Ton; Thomas, Groes Wen; Owen a Davies, Cymer; Jones, Glantaf Owen, cenhadwr; Jones ac Evans, B.A., Caerffili; Jones, Tynewydd; Ellis (M.C), Trealaw; Morgttn (M.C), Llwynypia; Joseph Evans, C- aerdydd Jones, Clydach Vale; Evans, > Tylorstown'; Overton, Dinas; Jones, Portb; Davies, Cwmparc Williams, B.A Cilfynydd Gruffydd, B.A., B.D.. Treorci; Williams, Aber- llechau; Evans, Penygraig; Davies, Aber- tridwr; Jones, Efailisaf; Morris, Senghennydd; Bryn Thomas, Ferndale; Hope Evans, Maerdy Thomas, Onllwyn; Phillips, Treharris; a Hughes, Pontycymer, ynghyda nifer mawr o leygwyr amlwg yn y cylch. Danghosodd yr egwys barch a charedigrwydd mawr i'n brawd a'i briod ar hyd y blynyddau, yn arbennig y blynyddau diweddaf, ac ni bu yn ol yn ei charedigrwydd yn yr amgylchiad hwn, drwy darparu lluniaeth i ddieithriaid. Dsrbyniodd ein brawd lu mawr o lythyrau o bell ac agos yn datgan cydymdeimlad ag ef yn ei brofedig- aeth. Dymuna ef gyflwyno ei ddiolchgarwch cynhesaf, yn arbennig i'r eglwys, ac i bawb ddanghosodd gydymdeimlad ag ef a'r teulu yn eu trallod. Diddaned yr Arglwydd y teulu a'r perthynasau yn eu galar, a chysgoded ein hannwyl frawd ag aden ei gariad hyd ei fedd. P. P.
i GWEITHWYR A GORFODAETH.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
GWEITHWYR A GORFODAETH. LLAFUR A'R RHYFEL. GEIRIAU CRYF GAN AELOD CYMRFIG. Parlxau y mae yr ymgais i wthio Gorfodaeth ar y deyrnas. Nos Fawrth diweddaf, 3-11 Nhy'r Cyffredin, yn wyneb gwrthdystiad cryf a phen- dant Mr Asquith ei hun, mynnodd y Capten Guest, ac eraill sy'n ffafru Gorfodaeth, ddadleu y cwestiwn drachefn yn y Ty. Ond mae'r wlad erbyn hyn yn declireu agor ei llygaid, ac yn amlygu ei barn a'i theimlad. PENDERFYNIAD Y GI,OWYR. Mewn cyfarfod cyffredinol o lowyx yr Hafod, Rhos, pasiwyd penderfyniad cryf ac unfrydol yn mynegi :—■ i. Fod y glowyr yn ffieiddio yr ymgyrch o blaid Gorfodaeth sy'n cael ei gario ymlaen gan adran neilltuol o'r wasg. 2. Fod y glowyr yn credu mai yilidrech oedd hwii gan ddosbarth neilltuol i osod llyffetheiriau ar weithwyr y deyrnas. 3. Fod y glowyr felly yn ainlygu gwrthwyneb- iad penderfynol i unrhyw fath o wasanaeth gor- fodol. Danfonodd ysgrifennydd y glowyr gopi o'r penderfyniad i Mr F. T. John, A.S., yr Aelod dros y rhanbarth. Mae atebiad Mr John yn un mor groew, ac yn taflu y fath oleuni ar agweddau pwysig o'r cwestiwn, fel y teimlwn y dylai pawb yng Nghymru ei ddarllen a'i ystyried yn ddif- rifol. Rhoddwn yma aralleiriad yn Gymraeg o sylwedd y llythyr pwysig hwn. PERYGIy ODDIWRTH ADRAN O'R WASG. Amlyga Mr John ei gydymdeimlad llwyr a'r penderfyniad uchod. Iylawenha fod gweithwyr Cymru yn ddigon cryf i ganfod gwir ffynhonnell ac amcan yr holl gynnwrf o blaid Gorfodaeth gweithfaol a milwrol. Tra yn gwerthfawrogi llawn ryddid y wasg, ac na fynnai gwtogi y rhyddid hwunw, dywed fod y duedd yn Lloegr o gysylltu nifer o bapurau o dan enwau gwa- hanol, ond oil o dan yr un perchen a'r un rheol- aeth, yn golygu perygl difrifol i'r wlad, ac yn enwedig pan fo'r prif berchen ei hun yn cael ei lywodraethu gan ysbryd materoliaeth a gwrth- weithiad. Creda er hynny y bydd gwerin Prydain gan mwyaf yn sefyll yn gryf yn erbyn dysgeid- iaeth beryglus y wasg filitaraidd. DIM ANGEN GORFODAETH. Dadleua nad oes modd amddiffyn y cri a godir o blaid Gorfodaeth yn y wlad hon. Atebodd yr holl genedl yn ardderchog pan alwyd am filwyr. Ymrestrodd yn agos i dair miliwn o'u gwirfodd -dynion cryfion yn foesol, yn feddyliol ac yn gorfforol. Profasant eu hunain yn filwyr god- idog ar faes y gwaed. Er iddynt ddod o wahanol alwedigaethau, cymhwyswyd hwynt mewn amser byr i fod yn filwyr effeithiol. Gwyddai y rhai sydd am wthio Gorfodaeth arnom yn dda mai nid prinder dynion ond prin- der arfau a chyfarpar a fu ein gwendid hyd yn hyn. Gwyddeut hefyd mai dyna a fyddai angen mawr y wlad hon a'i Cynghreiriaid am beth amser etc. Anghofiai y Gorfodwyr hefyd y rhaid talu am yr arfau a'r cyfarpar hyn, ac mai ar ein gweithfeydd a'n masnack y rhaid dibynnu am gynhaliaeth y milwyr. Yr oeddid erbyn hyn yn dechreu gweled mai gwell fuasai pe bai'r wlad hon wedi cadw rhagor o'i gweithwyr gartref i droi allan arfau a chyfarpar er cael adgyflemvad helaeth a digonol ohonynt i arfogi byddinoedd mawr Rwsia, ac felly i'w galluogi i ddal y tir a cnillwyd ganddynt yn Galicia a Dwyrain Prwsia llynedd. BAlCH COST Y RHYFEL. Mae swm anferth Trysorfa Dyled y Rhyfel, a'r gost ofnadwy o dros dair miliwn a hanner bob dydd i gario y rhyfel ymlaen, yn golygu trethiant trwm ar bawb-ar y cyfoethog yn ei lawnder ac ar y tlawd yn ei brinder. Danghosai hyn yr angen am ddatblygu ac ehangu holl adnoddau'r wlad mewn gwaith a masnach oiul yr oedd y rhai hyn eisoes wedi cael eu llyffeth- eirio a'ucyfyngu gan brinder dwylaw-yn y pwll glo, yn y gweithfeydd mawr, ac ar y tir. CYFWGAU'R MIIWYR. Ond hyd yn oed a chaniatau fod angen mwy o ddynion i'r fyddin, onid gwell a fuasai i'r awdurdodau, yn lie son am Orfodaeth, i gynnyg i ddynion ieuainc dibriod gyflog yn y fyddin cyfartal i'r hyn a enillant wrth eu galwedigaetli arferol ? Yn lie hynny, yr oedd telerau gwasan- aeth yn y fyddin yn awr yn gymhelliad cryf. i wyr priod a chanddynt deuluoedd mawr o blant yn ymddibynnu arnynt, tra nad oedd y telerau yn gymhelliad yn y byd i fechgyn a dynion seugl heb ond ychydig neu ddim cyfrifoldeb cynnal teulu yn gorffwys arnynt. CAai son am osod Gorfodaeth ar y wlad, dylai'r Swyddfa Rhyfel o leiaf gynnyg cyflog teilwng a digonol i fechgyn ieuainc yn ymrestru fel milwyr cyffredin. CAMGYMERIADAU'R LIvYWODRAETH. Yr oedd methiant ein byddin i ennill buddng- oliaeth gynnar ar y gelyn i'w briodoli ymlaenaf oil i anallu yr awdurdodau ar y dechreu i gyf- lawni y gwaith mawr o drefnu a chyflenwi y milwyr a atebasant yr alwad. Yr oedd y Swyddfa Dramor hefyd wedi bod ar fai. Bu yn hwyr- frydig ac aneffeithiol yn ceisio y cymorth a allasai fod wedi ei sicrhau. Pan gyhoeddwyd y rhyfel dylasai fod wedi sicrhau cymorth yr Eidal ar unwaith, ac wedi adsefydlu Cynghrair y Balkans. Yn awr, ar ol petruso llawer, yr oedd yr Fidal wedi ymuno ond yr oedd y safle yn y Balkaus, ar ol tri mis ar ddeg o ryfel, yn parhau yn amheus a difrifol. Oherwydd y pethau hyii yr oedd ennill y Dardanelles wedi bod yn waith anawdd ac wedi costio cynifer o fywydau. DYkANWADAU GWLEDYDD AMHLEIDGAR. Mewn cyltelyb fodd ychydig mewn cymhar- iaeth a. wnaed i sicrhau cydymdeimlad moesol a chydweithrediad masnachol y gwledydd amhleidgar. Credai llawer mai nerth dwrn yn unig sydd yn cyfrif heddyw. Fto dylid cofio mai gweithrediad galluoedd moesol oedd wedi cymell bechgyn ein gwlad ni, a'n perthynasau yn y Trefedigaethau ymhell dros y m6r, i gynnyg en gwasanaeth mor frwdfrydig ag a. wnaethant. Ac nid yw grym 3* dylanwahau moesol hynny eto wedi cael ei weithio allan. Y GWEITHIWR A RHYDDID GWI,ADOI,. Terfyna Mr John ei lythyr drwy ddweyd ei fod yn sicr y bydd i werin Cymru Y11 gyffredinol, a gweithwyr Cymrn yn arbennig, sefyll yn gadarn yn yr argyfwng hwn dros egwyddor fawr Rhyddid Gwladol, ac y bydd iddynt yr un mor bender- fynol wrthwynebu pob ymgais i wneud byw- ydau a hawliau y bobl yn is-ddarostyugedig i fympwy swyddogion gwladol, ac ysgrifenwyr a gwleidyddwyr sy'n profi eu bod mor brin mewn sefydlogrwydd ac addfedrwydd barn ag ydynt o ansicr yn eu iiyddlondeb i egwyddorion syl- faenol rhyddid.'
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
CARMEL, ABERLLECHAU .-Cynhaliodd yr eglwys uchod ei chyfarfodydd pregethu blyn- yddol ar y Sal a'r Llun, Medi 26ain a'r 27ain, pryd y gwasanaethwyd gan y Parch D Eiddig Jones, A.T.S., Clydach, Cwmtawe, a Miss Rosina Davies, yr efengyles. Cafwyd tywydd braf, cynulliadau lluosog a phregethau grymus. Yr oedd eneiniad dwyfol ar yr holl gyfarfod- ydd. VENO S UGHTNINC COUCH CURE The Ideal family remedy. Contates no opium, morphine. paregoric. or other harmful drug. Cures at all ages. OUCHS.COLDS COUGHS.COLDS Veno's is the surest aad speediest ?j?L?M cure for thMe winter t!h, the best pro '??B?? tection tg?inet more Mrioua dangers, cI L D R E N"S C'HILDREN'S ?B Soon yield to Veno't-nen Whoorin con h. And there 18 no trouble f. .i'I.. it, ..nd. simply love v. Other nu, jr/? and Large g\ I H from tktmitU and ft*rO mJl fterwhfre. R(/Im .u. "TrtJ*l <?y Jfc • '? "? "? &StJ?LT*<tM t? S ? '? ?<< *1 ??<! m v*w'i.n